Fferm Upper House, Crughywel

button-theme-pow PWMP logo

Fferm Upper House, Crughywel

Ar un adeg roedd y grŵp mawr yma o adeiladau rhestredig yn rhan o Fferm Upper House a sefydlwyd yn y 17eg ganrif gan deulu cyfoethog y Rumseyiaid. Ym 1916 bu carcharorion rhyfel o’r Almaen yn gorffwys yma (gweler isod).

Granar yw’r adeilad gwyn sy’n eich wynebu wrth i chi ddod i mewn i’r cwrt. I’r chwith ohono, saif Plas Rumsey, plasty hynafol a ailadeiladwyd yn y 16eg ganrif. Y tu ôl i’r hen ranar ceir gwylfa neu gazebo (tŵr â tho talcennog) a adeiladwyd yn y 18fed ganrif i weision a morynion o Westy’r Bear wylio’r ffordd am gerbydau’n dynesu.

Yn wynebu’r cwrt mae’r hen ffermdy gyda thwlc mochyn (a adeiladwyd fwy na thebyg yn yr 17eg ganrif) ac ar yr ochr ddeheuol, ddwy ysgubor fawr. Ymhlith yr adeiladau i’r gorllewin, ceir Bracty a Bracty Bach. Crëwyd y Bracty, yn y 17eg ganrif o bosib, o ran o Blas Rumsey.

Ym 1878, ymhell cyn cyfreithiau yfed a gyrru, dirwywyd John Saunders, Fferm Upper House, am fod yn ‘feddw ar gefn ceffyl’ ar Ffordd Aberhonddu!

Ym 1916, daeth cannoedd o garcharorion rhyfel i’r ardal i gwympo coed i’r llywodraeth. Caniatawyd hanner awr o seibiant yn y cwrt yma i rai o’r Almaenwyr wrth gerdded o orsaf drenau’r Fenni i’w gwersyll. Achubodd llawer o’r trigolion lleol, gan gynnwys plant, ar y cyfle i weld Almaenwyr yn y cnawd. Nododd y Brecon County Times fod cyflwr corfforol da’r Almaenwyr yn dangos eu bod yn cael eu trin yn dda gan y Prydeinwyr ers eu dal.

Yn haf 1918, bu 34 o gadetiaid a swyddogion o Ysgol y Gadeirlan yn Henffordd yn gwersylla ar Fferm Upper House gan gynorthwyo ffermwyr lleol gyda’r cynhaeaf. Roedd y rhyfel wedi lleihau gweithlu amaethyddol Prydain. Ar ôl y rhyfel, bu’r llywodraeth yn annog cynghorau i brynu ffermydd a’u rhentu i dyddynwyr er mwyn denu cyn-filwyr ac eraill i amaethu. Prynwyd Fferm Upper House gan Gyngor Sir Brycheiniog am £3,200 oddi wrth yr Arglwydd Glanwysg ym 1919 gan ffafrio cyn-filwyr wrth ystyried ceisiadau am denantiaeth.

Roedd y fferm yn dal i gael ei hamaethu ym 1985 pryd mai’r tenantiaid (er 1947) oedd Nancy a Bill Williams. Defnyddiwyd peth o’r tir amaeth yn y 1990au i greu “tele-bentref” cyntaf Prydain, cymuned o 39 o gartrefi gyda mynediad cyflym i’r rhyngrwyd i bobl oedd eisiau gweithio o’u cartrefi (a adwaenid yr adeg honno fel “teleweithio”). Aeth y fenter i’r gwellt yn 2000 ond mae’r cartrefi’n aros o hyd.

Erbyn heddiw mae’r adeiladau fferm sydd wedi’u clystyru o gwmpas Cwrt Crughywel yn gartref i gaffi a gwahanol fusnesau bach.

Gyda diolch i Ganolfan Archif Ardal Crughywel

Cod post: NP8 1BZ    Map

I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cerddwch i lawr Standard Street a throi i’r chwith wrth y briffordd. Dilynwch y ffordd at Neuadd Clarence
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button