Cerrig yr Orsedd, Y Fenni

button-theme-womenCerrig yr Orsedd, Y Fenni

Er bod golwg reit hynafol ar y cylch o gerrig a welir yn Swan Meadows, yn 1912 y cawsant eu codi! Codwyd y cylch ar gyfer cyflawni defodau Gorsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd ym Mharc Bailey ym mis Awst 1913. Yn ystod y seremoni ar ddydd Gwener 8 Awst cyflwynwyd “graddau er anrhydedd” i ddeuddeg o bobl.

Doedd yr eisteddfod ei hun ddim yn llwyddiant ysgubol. Roedd y niferoedd a ddenwyd i’r eisteddfod gryn dipyn yn llai na’r rheini a aeth i Wrecsam ym 1912. Gwnaeth yr eisteddfod golled. Roedd stranciau’r syffrajéts yn ofid ychwanegol i’r swyddogion. Darganfuwyd cerdyn yn pledio “Pleidlais i Ferched” mewn tas wair a oedd wedi’i llosgi gerllaw pafiliwn yr eisteddfod. Yn ôl pob sôn, roedd y protestwragedd wedi penderfynu cadw draw o’r ŵyl “rhag cael eu cam-drin” a’u sarhau gan y “coliers”.

Yn 2001 symudwyd cerrig yr orsedd o’u safle gwreiddiol yn y Grove, Heol Trefynwy i Swan Meadows.

Yn Llundain yn 1792 y cynulliwyd Gorsedd y Beirdd am y waith gyntaf a hynny gan Edward Williams, neu Iolo Morgannwg. Ac yntau’n fardd, yn radical gwleidyddol ac yn gaeth i laudanum, ffugiodd ddogfennau a thwyllo pobl bod cynnyrch ei ddychymyg ef, gan gynnwys yr Orsedd a’i “derwyddon”, wedi eu gwreiddio yn hanes hynafol y Celtiaid.

Yn 1819 cododd Iolo gylch o gerrig derwyddol bychain yng Nghaerfyrddin ar gyfer seremoni’r Orsedd i gyd-fynd ag eisteddfod ranbarthol a gynhelid yno. Er y cyfnod hwnnw, mae’r Orsedd wedi bod wedi bod â rhan mewn eisteddfodau yn enwedig yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, lle y bydd beirdd, perfformwyr a chystadleuwyr eraill yn cystadlu bob mis Awst. Tan 2005 roedd cylchoedd tebyg yn cael eu codi ym mhob tref a fyddai’n croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol. Erbyn hyn cylch symudol o gerrig ffug a gaiff ei godi - i arbed arian.

Un o noddwyr Iolo Morgannwg oedd Lady Greenly. Roedd hi’n ffrind i Georgina Waddington o Lanofer ger y Fenni. Daeth merch Georgina, Augusta (1802-1896) yn Arglwyddes Llanofer a chafodd hi ddylanwad mawr ar ffurfio traddodiadau Cymreig yn ystod oes Fictoria. Hi, yn anad neb, a greodd , y “Wisg Gymreig”; hyrwyddodd, yn ogystal, y delyn deires (ar draul y delyn Ellmynig a oedd wedi dod yn boblogaidd ym Mhrydain); noddodd eisteddfodau. Ei henw barddol oedd Gwenynen Gwent sy’n ddisgrifiad o’i chefnogaeth ddiflino i weithgareddau diwylliannol ac i fywyd academig yng Nghymru.

Cyfieithiad gan Yr Athro Dai Thorne

Cod post : NP7 5HF    Map

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button