Gwesty’r Metropole, Llandrindod

PWMP logo

Gwesty’r Metropole, Llandrindod

Photo of the Bridge Hotel Llandrindod Wells

Erbyn y 1920au hwn oedd y gwesty mwyaf yng Nghymru, gyda llety am 250 o westeion ar yr un pryd. Dechreuodd y gwesty ym 1872 fel Gwesty a Llety Masnach Coleman, adeilad trillawr a godwyd gan Edwin Coleman, postfeistr ym mhentref Hawy gerllaw.

Cymerwyd y gwesty drosodd gan y teulu Wilding ym 1885 ac aethant ati i’w ehangu a rhoi enw newydd arno, sef Gwesty’r Bridge (sydd yn y llun ar y dde) sy’n coffáu pont ar nant yr Arlais sydd y tu ôl i’r gwesty. Ym mis Gorffennaf 1889 cerddodd gwestai annisgwyl a hynod i mewn i’r ystafell wisgo – llewes! Roedd hi wedi dianc o sioe anifeiliaid deithiol George Wombwell a oedd yn arddangos creaduriaid dieithr ac ecsotig ar y lawntydd gyferbyn â’r gwesty. Dianc trwy’r ffenest fu hanes yr unig westai a oedd yno ar y pryd ac yn fuan daliwyd y llewes gan ei gofalwyr.

Gwerthwyd y gwesty am y tro olaf ym 1897 pan y’i prynwyd gan Elizabeth Mills am £7,850. Ychwanegodd hithau asgell newydd gyda lle ar gyfer 70 o ymwelwyr ym 1899. Prynodd Elizabeth y cyfan oll o garpedi, llestri, cyllyll a ffyrc o Westy’r Metropole yn Cromer, Norfolk. Roedd y rhain i gyd yn dangos y llythyren ‘M’. Yn sgil hyn bu’n rhaid newid enw’r gwesty i’r Metropole’n brydlon!

Portrait of Lt Col Delap

Symudodd swyddogion Corfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin i’r gwesty ym mis Rhagfyr 1914. Un o’r milwyr hyn oedd yr Uwchgapten GJ Delap (sydd yn y llun ar y chwith). Ef oedd prif swyddog oddeutu 4,000 o ddynion y Corfflu a fu’n hyfforddi yn Llandrindod rhwng 1915-16. Cafodd ei ddyrchafu’n Is-gyrnol ym 1915.

Ym mis Gorffennaf 1915 mynychodd David Lloyd George, y Gweinidog dros Arfau Rhyfel, gyngerdd yn y Metropole gyda’i wraig a’i ferch. Daeth yn brif weinidog ym 1916. Cododd cyngerdd arall fan hyn £30 ar gyfer Y Groes Goch yn Ffrainc ym 1918.

Hefyd yn y flwyddyn honno bu’r chwaraewr biliards enwog Claude Falkiner, yn arddangos ei ddawn ar y gêm ‘snwcer pŵl’ a biliards i godi arian at Gronfa Gysur y Milwyr.

Old photo of rear of Metropole Hotel Llandrindod Wells

Ehangwyd yr ysbyty eto ym 1923. Mae tu ôl yr adeilad (yn y darlun ar y dde) gyda’i bâr o dyrrau bychain copor, yn fwy addurnol na’r tu blaen. Y disgwyl oedd y byddai’r ffordd fawr yn cael ei dargyfeirio tua’r fan honno! Mae’r gwesty’n gallu ymfalchïo mewn addurniadau Art Nouveau dan gamp, gan gynnwys ffenestri lliw.

Meddiannwyd y gwesty’n orfodol gan y fyddin eto yn yr Ail Ryfel Byd, y tro hwn ar gyfer hyfforddi swyddogion o gadlanciau. Ail-agorodd y gwesty ym 1947 ac mae’n cael ei redeg a’i reoli gan ddisgynyddion Elizabeth Miles hyd heddiw. Y tu fewn i’r Metropole mae ymwelwyr yn gallu bwrw golwg dros linell amser y gwesty.

Côd Post: LD1 5DY    Map

Gwefan Gwesty'r Metropole

I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua’r de ar hyd Stryd y Deml. Trowch i’r chwith wrth y cylchfan. Mae’r codau QR nesaf ar bosyn llidiart adeilad y coleg, ar y chwith yn Spa Road East
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button