Maes tanio Pentywyn

Maes tanio Pentywyn

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn gwyro i’r mewndir rhwng Lacharn a Phentywyn er mwyn osgoi’r maes tanio.

Cafodd Sefydliad Arbrofi Arfau Bychain y Lluoedd Arfog ei sefydlu yn 1938 ar faes tanio reifflau a oedd wedi cartrefu ers tro byd yn Hythe, swydd Caint. Pan feddiannwyd Gwlad Belg a Ffrainc gan y Natsïaid yn 1940, teimlai’r awdurdodau Prydeinig fod arfordir Caint yn rhy anodd i’w amddiffyn a symudwyd i safle a fu ar un adeg yn wlyptir tua’r dwyrain o Bentywyn. Cawsai’r tir ei sychu er yr ail ganrif ar bymtheg i ffurfio llain eang o dir gwastad – nodwedd brin o ran tirwedd gorllewin Prydain.

Ar y dechrau y Beach Hotel ym Mhentywyn oedd pencadlys y maes tanio. Symudwyd staff o Hythe yno ac o safle arall yn Shoeburyness yn swydd Essex. Dechreuodd y tanio ym Mhentywyn gwta tair wythnos yn ddiweddarach.

Codwyd tai parod ar gyfer y gweithlu. Gwnaed trefniadau i sefydlu pencadlys mwy parhaol yn 1941 pan brynwyd trwy orfodaeth plas Fictoraidd Llanmiloe House, i’r gogledd o’r A4066. Bu hwn yn eiddo i’r Weinyddiath Amddiffyn tan y 1990au.

Wedi’r Ail Ryfel Byd ad-drefnwyd y meysydd tanio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Cadwyd safle Pentywyn, sut bynnag, gan y Weinyddiaeth a’i ehangu i drin sawl math o arfau (ynghyd ag arfau bychain).

Erbyn heddiw mae’r maes tanio yn estyn dros ardal o 20.5 cilomedr sgwar. ac fe’i rheolir gan QuinetiQ ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae tri llwybr arbrofi ar y safle. Ymdebygant i gledrau rheilfordd ere u bod yn amrywio o ran eu hyd ac o ran y gofod rhwng y cledrau. Y llwybr 1.5 cilomedr a gwblhawyd yn 1956 yw’r hwyaf yn Ewrop;  gellir ei ddefnyddio i brofi systemau sy’n teithio hyd at deirgwaith cyflymder sŵn, neu 3,700 cilomedr yr awr (2,300 milltir yr awr).

Mae rhan o’r maes tanio yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Diogelir bioamrywiaeth y tir drwy reoli pori a symud planhigion a allai rwystro ffyniant planhigion eraill. Mae’r safle yn gynefin i lygod y dŵr, dwrgwn, ysgyfarnogod, ceirw a chreaduriaid amrywiol. Ymhlith y rhywogaethau nodedig ceir tegeirian bach yr Alpau, petal-lys, a math prin o fwsog sef Drepanocladus sendtneri.

Ynghylch yr enw lle:

Pentywyn: ‘trwyn uwchlaw glan y môr’;  Pendine ‘trwyn ger amddiffynfa’. Honnir gan rai fod yr enwau hyn yn cyfeirio at nodweddion gwahanol yn y dirwedd: glan y môr (sef tywyn) a din (sef amddiffynfa) er na cheir cofnod am gaer yma. Nid oes tystiolaeth ddogfennol am y ffurf Pentywyn ar ôl y 13eg ganrif; Pen-din neu Pen-dein sy’n digwydd amlaf mewn ffynonellau Cymreig. Mae’r eglwys wedi’i chysegru i Teilo.

Gyda diolch i’r Athro Dai Thorne, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru  

Cod post: SA33 4UA    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button