Cadeirlan Llandaf

tudorroseWCadeirlan Llandaf

llandaf_cathedral_in_1890sMae rhannau o'r gadeirlan, gan gynnwys bwa cysegr Romanésg ysblennydd, yn dyddio o 1120. Dyna pryd ailadeiladodd yr Esgob Urban yr eglwys fach yr oedd wedi'i hetifeddu ar safle cymuned Gristnogol, a sefydlwyd yn wreiddiol yn y 6ed ganrif gan Sant Dyfrig a'i olynwyr, St Teilo a St Euddogwy. Arhosodd y seintiau hyn fel noddwyr y gadeirlan newydd, ond ychwanegodd y Normaniaid Sant Pedr a Sant Paul.

Credir bod yr Esgob Urban wedi goruchwylio ysgrifennu Llyfr Llandaf (Liber Landavensis), un o lawysgrifau eglwys cynharaf Cymru. Gallwch weld y llyfr ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yma.

Pregethodd Baldwin, Archesgob Caergaint, yma ym 1188 wrth deithio o amgylch Cymru i recriwtio ar gyfer y trydydd croesgad. Roedd Geralllt Gymro gydag ef, ac fe gofnododd Gerallt i’r Saeson sefyll ar un ochr a'r Cymry gyferbyn pan fu Baldwin yn pregethu. Ymrestrodd llawer o ddynion o’r ddwy genedl. Arhosodd yr ymwelwyr dros nos gyda'r Esgob William o Llandaf. Yn y bore dathlodd Baldwin offeren wrth allor uchel y gadeirlan.

Yn hwyrach, ehangwyd ac addaswyd y gadeirlan Normanaidd, yn enwedig yn y 13eg ganrif. Ystyrir canol y blaen gorllewinol, sy'n dyddio o 1220, yn un o weithiau celf ganoloesol pwysicaf Cymru.

Codwyd y clochdwr gogledd-orllewinol, yn arddull Gwlad yr Haf, tua 1485 gydag arian gan Siasbar Tudur, ewythr i'r Brenin Harri VII. Cymerodd le clochdy ar wahân, i fyny'r llethr cyfagos, a ddifethwyd yng ngwrthryfel Glyndŵr ym 1403.

Aerial photo of Llandaff Cathedral in 1942O ganlyniad i ddiwygiadau crefyddol y Brenin Harri VIII yn y ganrif ganlynol, diflannodd cysegrfa Sant Teilo, ynghyd â’r refeniw o roddion pererinion. Yn bwysicach fyth, collodd y gadeirlan y rhan fwyaf o'r tiroedd a oedd wedi ariannu ei chynhaliaeth. Fe adfeiliodd y gadeirlan fwy a mwy, gan gyrraedd ei hisafbwynt pan gwympodd twr canoloesol y de-orllewin yn ystod gwynt mawr ym 1722, gan ddod â llawer o do corff yr eglwys i lawr.

Ym 1734 bu ymgais i adfer y gadeirlan, gyda John Wood yr Hynaf o Gaerfaddon yn bensaer. Dim ond yr hanner dwyreiniol a atgyweiriwyd, yn yr arddull glasurol. Gadawyd y gweddill fel adfail gothig. O 1840, gyda mwy o lewyrch yn yr ardal, cafwyd adferiad trylwyr mewn arddull gothig o dan y pensaer John Prichard a ddileodd y gwaith o'r 18fed ganrif. Ychwanegwyd twr y de-orllwein a'r meindwr trawiadol ym 1869. Mae'r llun uchod yn dangos y gadeirlan yn y 1890au.

Ym 1941 gadawodd ffrwydryn Almaenig lawer o'r adeilad yn adfail ac heb do unwaith eto. Gweler y llun o’r awyr o 1942, trwy garedigrwydd Llywodraeth Cymru.

Gydag atgyweiriad yr adeilad ar ôl y rhyfel, a gyfarwyddwyd gan George Pace, cyfunwyd yr hen â’r newydd, gan greu naws fwy eang ac awyrog y tu mewn. Ei ychwanegiad amlycaf oedd y bwa concrit sy’n rhannu'r corff o'r côr. Ar flaen y baw fe welwch gwaith celf mwyaf trawiadol y gadeirlan – ffigwr alwminiwm diaddurn Crist yn Fawrhydi gan Jacob Epstein. Ychwanegodd Pace hefyd Gapel Dewi Sant mewn ardddull ataliedig, man heddychlon sy’n gapel coffa i’r Gatrawd Cymreig.

Photo of Llandaff Cathedral interior in 1961
Y bwa a ffigwr Crist ym 1961,
trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Mae’r llun isaf, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y bwa a’r ffigwr ym 1961. Daw o Gasgliad y Swyddfa Gwybodaeth Ganolig Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Gwaith celf pwysig arall yw'r triptych, Hedyn Dafydd, a gomisiynwyd yn wreiddiol ym 1856 o’r arlunydd cyn-Raffaelaidd Dante Gabriel Rossetti ar gyfer yr allor uchel. Mae bellach yng Nghapel St Illtud. Mae nifer o artistiaid eraill wedi cyfrannu gweithiau i'r gadeirlan gan gynnwys Edward Burne-Jones, William Morris, Ford Maddox Brown, John Piper, William Goscombe John ac Alan Durst.

Y gadeirlan yw mam-eglwys esgobaeth Llandaf, sy'n ymestyn o Gaerdydd i Gastell-nedd. Mae ar agor yn ddyddiol, gyda gwasanaethau bob dydd o'r wythnos gan gynnwys Gosber Gorawl (fel arfer) a chwe gwasanaeth ar ddydd Sul. Mae’r organ fawr, gan Nicholson, yn dyddio o 2010.

Cod post: CF5 2LA    Map

Gwefan y gadeirlan

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

button_tour_gerald-E Navigation previous buttonNavigation next button