Poplys duon Roe Plas, Llanelwy

Poplys duon Roe Plas, Llanelwy

Mae Roe Plas, y parcdir ger yr afon Elwy, yn nodedig am ei boplys duon. Gallwch adnabod y coed oddi wrth eu rhisgl tywyll sydd bron yn ddu, fel yr awgryma'u henw. Mae poplys duon yn frodorol i Ynysoedd Prydain ond rwan yn brin.

Yn draddodiadol roedd galw mawr am y pren, sydd bron yn wyn, oherwydd ei allu i wrthsefyll sioc a’i bwysau isel. Roedd yn ddelfrydol ar gyfer tariannau i filwyr, ac ar gyfer rhannau o gerbydau a oedd yn cario baich ac ymdopi â ffyrdd anwastad. Yn y cyfnod modern mae pren poplys duon wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer coesau neu freichiau artiffisial.

Dim ond tua 2,000 o boplys duon aeddfed sy’n bodoli ym Mhrydain heddiw, ac mae tua 10% ohonynt i’w gweld yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

Yn y gwanwyn, mae poplys duon yn cynhyrchu gwyddau bach (catkins) coch. Ar un adeg roedd y rhain yn cael eu trin gydag amheuaeth. Mewn rhai ardaloedd, fe’i gelwir “bysedd y diafol”, a gwaharddwyd plant rhag eu codi o’r ddaear er mwyn osgoi lwc ddrwg.

Hefyd yn Roe Plas gallwch weld rhai o'r 60 o goed sakura (ceirios) Siapaneaidd a roddwyd i Lanelwy gan Lysgennad Siapan yn 2020. Mae'r gweddill ar Gomin Llanelwy. Roeddent yn rhan o brosiect ehangach i blannu 1,000 o goed ceirios yn y DU i ddathlu cydweithrediad a chyfeillgarwch rhwng y gwledydd. Ystyrir mai blodau ceirios yw blodyn cenedlaethol Siapan. Mae'n symbol o harddwch ysbrydol a digymelldeb naturiol yn niwylliant Siapan.

Roe yn Roe Plas ydy gro, cyfeiriad at y banc graean ar lannau afon Elwy yn Llanelwy. Datblygodd fel hyn: gro > y gro > y ro. Cymharer Ro-wen yn Nyffryn Conwy. Fe aeth Ro yn Roe ers blynyddoedd bellach. 

Gyda diolch i’r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

View Location Map