Gwesty’r Highland Moors, Llandrindod

PWMP logo

Gwesty’r Highland Moors, Llandrindod

Gwesty ffynhonnau oedd yr adeilad hwn yn wreiddiol ac ar ôl hynny fe’i defnyddiwyd fel ysbyty milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedyn daeth yn ysgol gwfaint a sanatoriwm ar gyfer bechgyn.

Adeiladodd Thomas Heighway Ffynnon Hydro’r Highland Moors ar ôl darganfod chwe ffynnon yn yr ardal hon. Roedd ei deulu wedi symud i Landrindod o Riwabon (sy’n enwog am ei briciau a’i theils terracotta) a sefydlu gwaith gwneud brics wrth i Landrindod prysur dyfu. Gosododd Thomas Parc y Creigiau ar brydles a phlannodd wahanol fathau o goed yn y fan honno. 

Agorodd Thomas ei westy ffynnon newydd ym 1911 ac roedd yn cynnig llawer o driniaethau gwahanol. Ym 1915 sefydlodd Y Groes Goch ysbyty fan hyn er mwyn trin milwyr wedi’u clwyfo. Hefyd daeth milwyr yma a oedd yn dioddef o grydcymalau  i gael triniaeth o ddŵr y ffynnon. Roedd Y Groes Goch yn berchen ar ysbyty yn y County Club yn y dref nes iddo gael ei feddiannu trwy orchymyn gan Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Roedd y Corfflu’n lletya miloedd o filwyr yn Llandrindod ar y pryd.

Highland Moors Hospital certificate

Ffurfiodd cleifion cerddorol grŵp o gantorion o’r enw Parti Glee’r Highland Moors. Roedden nhw’n canu mewn cyngherddau lleol gan gynnwys rhai yn yr ysbyty ei hun. Yn ystod cyngerdd ym 1916 cyflwynodd y milwyr dlws arian i Miss Gertrude Chune i ddiolch iddi am ei gwaith fel swyddog cyflenwi'r ysbyty. Rhoddodd y cleifion ddysgl rosynnau arian i’r pennaeth, Miss Cara Venebles o Neuadd Llysdinam ym 1917. Cyflwynwyd y dystysgrif a welir yma gan Miss Lilly Ace fel cydnabyddiaeth o’u gwasanaeth yn yr ysbyty yn ystod y rhyfel. Daw’r dystysgrif trwy garedigrwydd a hawlfraint Amgueddfa Sir Faesyfed

Bu farw un o gleifion yr ysbyty, Preifat J Shortman o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ym mis Mawrth 1916 ac fe gafodd angladd milwrol llawn yn y dre.

Aeth plant yn Llanelwedd ag wyau a bwydydd eraill i’r Ysgol Sul bob wythnos ar gyfer cleifion yr ysbyty. Rhoddodd plwyfolion yn y fan honno ac mewn cymunedau eraill fwyd, sanau, dillad a chotiau gwely i’r cleifion.

Parhâi Ysbyty’r Highland Moors hyd at y 1920au, ac ar ôl hynny cafodd yr adeilad ei droi’n westy. Ym 1932 fe ddaeth yn sanatoriwm ar gyfer bechgyn a oedd yn dioddef o’r diciâu ac asthma. Wedyn bu Cwfaint Chwiorydd Cenhadol Verona yn preswylio fan hyn o 1958 hyd 1994. Roedd cynllun ac addurniadau gwreiddiol yr adeilad, a ddyluniwyd ar gyfer twristiaid iechyd, yn ddelfrydol ar gyfer y Cwfaint a gwnaed ychydig o newidiadau.

Mae’r adeilad wedi cael ei adnabod fel Gwesty’r Highland Moors ers 2003.

Mae cofeb yn Llandrindod yn coffáu’r gwaith codi arian ar gyfer Y Groes Goch yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Côd post: LD1 5ND    Map

Gwefan Gwesty'r Highland Moors