Automobile Palace, Llandrindod

Automobile Palace, Llandrindod

Cafodd yr adeilad ar y gornel, sydd bellach yn gartref i’r Amgueddfa Seiclo Genedlaethol a nifer o sefydliadau eraill, ei adeiladu ar gyfer yr entrepreneur trafnidiaeth lleol, Tom Norton, ar ddechrau'r 20fed ganrif.  Edrychwch i fyny i weld enw ei gwmni mewn llythrennau mawr ar hyd y ffasâd, yn gymysg â "Cycles", "Motors" ac "Aircraft". Mae'r ochr sy'n wynebu Princes Avenue hefyd yn arddangos y gair "Accessories".

Mae'r adeilad yn enghraifft gynnar o bensaernïaeth sy’n defnyddio fframwaith concrid a dur. Cafodd y rhan gyntaf ei chwblhau ym 1911. Cafodd estyniad, tua dwywaith maint y gwreiddiol, ei ychwanegu ym 1919. Mae'r ffryntiad yn cynnwys ffenestri mawr wedi'u hamgylchynu gan faience, sef math o deils gwydrog.

Photo of Tom Norton

Dechreuodd Tom Norton - y gwelir ei lun ar y dde trwy gwrteisi a hawlfraint Amgueddfa Sir Faesyfed - werthu beiciau ym 1899 mewn siop ar rent yn y Stryd Fawr. Gyda chymorth ei frawd iau, Jack, aeth ati i ddechrau gwerthu beiciau modur a cheir. Lansiodd un o wasanaethau bysiau cyhoeddus cynharaf Cymru ym 1906 a maes o law ef oedd deliwr Cymru ar gyfer ceir Ford ac Austin a thractorau Ferguson.

Ym 1917 penododd y Llywodraeth, oedd yn ymdrechu i wella'r gwaith o gynhyrchu bwyd yn ystod y rhyfel, Tom yn drefnydd y "cynllun aredig gyda thractor modur" i Gymru. Dim ond tri thractor oedd yna yng Nghymru, ac roedd y cynllun yn anelu at eu gweithio nhw mor galed â phosibl yn ystod y tymor aredig, gyda chymorth technegol gan fasnachwyr moduron lleol. Yn yr un flwyddyn, agorodd Tom a'i wraig ysbyty rhyfel yn eu cartref, Fronheulog, yn Heol Ithon.

Tom hefyd a gadeiriodd y tribiwnlys milwrol lleol yn Adeiladau'r Sir a benderfynodd a ddylai dynion gael eu heithrio o wasanaeth milwrol yn ystod y rhyfel.

Mae'r gair "Aircraft" ar adran 1919 yr adeilad yn deillio o ymdrechion Tom i hyrwyddo hedfan yn lleol. Yn yr 1930au, roedd cynlluniau hyd yn oed i redeg gwasanaethau awyr i deithwyr i ac o gae ger Gwesty'r Rock Park. Erbyn hyn roedd cwmni Tom yn cael ei adnabod fel The Automobile Palace Ltd ac roedd ganddo siopau yng Ngogledd Cymru.

Roedd Tom yn un o aelodau blaenllaw isadran De Cymru a Mynwy y Motor Trades Association. Bu farw ym 1955, yn 85 oed.

Cod post: LD1 5DL    Map

I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, croeswch yr heol a throwch i’r chwith wrth y cylchfan. Cerddwch ar hyd Spa Road a throwch i’r chwith ychydig cyn yr eglwys. Ewch ymlaen at y Pafiliwn Mawr
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button