Y Ganolfan Griced Genedlaethol, Gerddi Sophia

Glamorgan county cricket club logo

Y Ganolfan Griced Genedlaethol, a grëwyd ym 1998, oedd yr adeilad cyntaf a berthynai i CCS Morgannwg i’w godi ar y safle. Cyn hynny nid oedd y Clwb ond yn berchen ar ardal swyddfa fechan.  Ariannwyd y Ganolfan Griced Genedlaethol drwy grant a chymorth y Loteri Genedlaethol.

Mae’r llawr gwaelod yn cynnwys yr Ysgol Dan Do, a ddefnyddiwyd gan chwaraewyr proffesiynol Morgannwg a charfannau ieuenctid Cymru, ymhlith eraill. Mae Lolfa’r Enwogion, hefyd ar y llawr gwaelod, yn dathlu rhai o enwau mawr hanes y clwb.

Ar y llawr cyntaf mae CC4, Amgueddfa Griced Cymru, yr amgueddfa chwaraeon benodol gyntaf yng Nghymru. Mae’r arddangosiadau’n dilyn hanes y gêm er y 18fed ganrif – yn dangos taw criced yw’r gamp timau hynaf yng Nghymru. Gall ymwelwyr hefyd weld sut mae offer criced wedi newid dros amser. Rhoddwyd nifer o’r darnau arddangos gan hen chwaraewyr Morgannwg neu eu teuluoedd. Ymhlith cyfleusterau amlgyfrwng yr amgueddfa mae ffilmiau fideo sy’n dathlu hanes y Clwb.

Ar lawr uchaf y ganolfan mae ystafelloedd lletygarwch a Lolfa Lewis, sy’n dathlu cyflawniadau Tony Lewis a’i dîm Morgannwg wrth ennill Pencampwriaeth Sirol 1969.

Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg

Gwefan Awyr Agored Caerdydd

Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap

 

Glamorgan cricket club  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

 

Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 2 (coch) ar y map isod.

 cricket-walk-map