Olion coedwig gynhanesol, Llanrhath

acc-logo

O bryd i’w gilydd gellir gweld olion coedwig gynhanesol ar draeth Llanrhath pan fydd stormydd wedi peri symud y tywod. Diflannodd y goedwig pan gododd lefel y môr dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl. 

amroth_prehistoric_forest_remnantMae’r pren hynafol yn feddal, yn sbyngaidd ac yn llawn o wlybaniaeth. Mae’r ffibrau yn amlwg. Yn awr ac yn y man daw cnau, mes a dail cyn deneued â phapur i’r golwg. Pan godwyd y promenâd yn y 1950au cafwyd hyd i lawer o fes. 

Planhigion cynhanesol a ffurfiodd y wythïen o lo caled ('anthracite') yn Llanrhath. Cloddiwyd y wythïen hon gan godi glo mewn sawl man ond yn arbennig yn Colby. Mae’r wythïen yn weladwy yn y creigiau i’r gorllewin o Lanrhath. Dechreuwyd ffurfio’r graig 315 miliwn o flynyddoedd yn ôl. 

Mae glo yn gwbl amlwg, yn ogystal, ar lan ddwyreiniol y nant ger y New Inn. Rhwng y fan hon a Telpyn mae Black Rock lle y mae glo i’w weld wrth ymyl y môr. Yn y cyffiniau hyn roedd Ogofâu Blackthorn ond dinistriwyd bron pob ôl ohonyn nhw gan storm yn 1896. Bwa o graig oedd yn weddill sef Black Hall, ond chwalwyd hwnnw gan stormydd yn y 20au. Gweler y troednodyn am ddarn o farddoniaeth sy’n sôn am y golled. 

Mae’r gymuned leol wedi elwa o’r adnoddau a gynigir gan y môr a’r traeth yn ddiau, ond wedi gorfod dygymod, yn ogystal, â‘r môr yn ailffurfio’r arfordir, yn arbennig felly yn ystod stormydd garw’r gaeaf. Yn y 1950au gosodwyd meini, grwynau ac amddiffynfeydd morol newydd yn eu lle wedi i Ymarfer Jantzen brysuro symudiad naturiol y traeth tua’r dwyrain. Defnyddiwyd cledrau a godwyd o reilffordd Maenclochog yn 1952 i angori rhai o’r grwynau. 

Mae draenogiaid y môr ymhlith y rhywogaethau niferus o bysgod a geir yn y môr ger Llanrhath. Yn 2018 dadorchuddiwyd cerflun o ddraenogyn o’r enw Bertie ar lan y môr ger yr Amroth Arms. Y cynllunydd oedd Gideon Petersen, cerflunydd lleol. Cafodd y cerflun ei greu o ddur gloyw a’i lenwi â photeli plastig wedi’u hailgylchu a gasglwyd gan blant ysgol. Cyngor Cymuned Llanrhath a Chyngor Cymuned Saundersfoot a gomisynodd y cerflun yn rhan o gynllun “Troi’r Llanw ar Blastig”. Ailgynlluniwyd logo cyngor Llanrhath yn 2020 i gynnwys draenog y môr. 

Er 2004 mae arfordir Llanrhath yn rhan o Ardal Benodedig Arbennig Diogelu Bae ac Aberoedd Caerfyrddin gan sicrhau cyfle i reoli a gwarchod y glannau arbennig hyn.

Diolch i Mark Harvey

Cod post: SA67 8NN     Gweler map y safle  

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button

Troednodyn: Cerdd am 'Black Hall Arch'

Cyhoeddwyd y gerdd isod gan Dick Thomas, a drigai yn Llanrhath, yn y Narberth Weekly News yn 1926. 

Black Hall Arch, Amroth
Historic Arch, alas, no more, hit hard by frost, by waves and storm,
Bright beauty spot on Amroth's shore, now battered, shapeless, rent and torn.
Old Neptune with terrific blows egged on by heartless Father Time,
Devoid of love, no mercy shows on mortal, landmark, arch or shrine.
To stately Arch we bid adieu, in minor strain its loss deplore.
For ever gone from human view, must now be classed with things of yore.
About two hundred years ago John Wesley passed on horse this way.
We think the saint with mind aglow beheld this Arch and blessed the day.
Here Nelson gazed with pleasing eye, the antiquarian plied his pen.
The submerged forest green and dry grew food for prehistoric men.
Near by its base a thinker sat to write in book its hoary age,
"Two hundred years," instead of that please write ten thousand on its page.
Dear Editor of "Narberth News", keen lover of historic lore,
Insert these lines, imprint these views, and mourn with me for Amroth shore.