Ffenestr Stuttgart, Neuadd Dewi Sant

Ffenestr Stuttgart, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Y ffenestr wydr hon yn y cyntedd ar lefel 3 oedd y ffenest liw seciwlar fwyaf ym Mhrydain pan y’i dadorchuddiwyd hi yn 1984. Roedd yn anrheg gan efeilldref Almaenig Caerdydd, sef Stuttgart. Fe’i dadorchuddiwyd gan Hansmartin Bruckmann, Bürgermeister Stuttgart (sy’n cyfateb yn fras i’n Maer ni)

Dyluniwyd y ffenestr gan Hans Gottfried von Stockhausen. Mae’r dyluniad yn portreadu tirwedd Gymreig gyda’i gymoedd gwasgarog a’i afonydd yn llifo. Mae cyfeiriadau at ddiwylliant Cymru – ceisiwch weld os gallwch weld y pyst rygbi!

Mae’r ffenest Photo of Queen Mother opening St David's Hall, Cardiffyn gefndir i Lwyfan Lefel 3, sy’n rhoi llwyfan i gomedïwyr, cyngherddau gwerin yn y gyfres Roots Unearthed a pherfformiadau gan y Capital City Jazz Orchestra o Gaerdydd. Caiff perfformiadau byw eu darlledu yn achlysurol yma gan BBC Radio Wales.

I’r dde o’r llwyfan a’r ffenest mae plac yn coffáu agoriad swyddogol y Neuadd. Dadorchuddiwyd y plac gan y Fam Frenhines ar 15 Chwefror 1983 (llun ar y chwith). Yn y seremoni dywedodd: “Bydd y datblygiad cyffrous hwn yn ychwanegu’n fawr at ansawdd bywyd yn ninas Caerdydd a phobl Cymru.”

Yn y cyngerdd agoriadol roedd Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC ( a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC), Petula Clark, Band y Cory, Côr Meibion Pontarddulais a’r arweinydd Owain Arwel Hughes. Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd Syr Geraint Evans ac Angharad Rees. Roedd yna ddarlleniad hefyd gan y bardd o Abertawe, Harri Webb. Darlledwyd y digwyddiad yn fyw ar HTV Cymru.


Cod post: CF10 1AH    Map

Gwefan Neuadd Dewi Sant

St Davids Hall foyer  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button