Harbwr Pwllheli

button-theme-crimeHarbwr Pwllheli

pwllheli_drawingRoedd bwrdeistref canoloesol Pwllheli wedi ei lleoli'n strategol wrth ymyl pwll llanw naturiol mawr, lle y llifau’r afon Rhyd-hir tua’r môr rhwng cloddiau mawr o dywod yn y gorffennol. Yn 1292 neu 1293, cofnodwyd enw’r lle fel pwllhely.

Roedd prif ffocws y gweithgareddau dynol ym mhen gorllewinol yr hyn a enwyd yn ddiweddarach yr Harbwr Mewnol. Yno roedd llawer o bobl yn cael eu cyflogi i adeiladu llongau. O 1759 i 1878, lansiwyd mwy na 460 o longau newydd ym Mhwllheli.

Ym mis Ionawr 1752, rhuthrodd dorf o bobl y dref, menywod yn bennaf, ar fwrdd slŵp o'r enw Blackbird yn yr harbwr. Roedd y llong wedi ei llwytho â thatws, haidd a rhyg. Cafwyd cynhaeaf gwael arall yng Nghymru yn 1751 ac roedd llawer o bobl yn newynu. Rhwystryd ymdrechion y dorf i gymryd peth o'r cargo pan ddarllennodd y beili, Rosindall Lloyd, y Ddeddf Derfysg.

Mae'r darlun (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn dangos yr olygfa ar draws Pwllheli a'i harbwr yn y 18fed ganrif. Fe’i gwnaed ar gyfer llyfrau Thomas Pennant am ei deithiau o amgylch Cymru. Nododd fod gan y dref “harbwr goddefadwy ar gyfer llongau o tua thrigain tunnell”, ac fod craig uchel o’r enw The Gimlet wrth fynydfa’r harbwr.

Yn 1808 awdurdododd y Senedd ddau arglawdd newydd i ddiogelu ardal yr harbwr, ynghyd â draenio ardaloedd eang o dir. Mae’r ffotograff isod yn dangos yr harbwr yn 1890.

Photo of Pwllheli harbour in 1890Dechreuodd gwelliannau i ffurfio’r Harbwr Mewnol yn 1903, ond erbyn hynny roedd y rheilffyrdd yn cludo llawer o'r nywddau a oedd yn flaenorol yn mynd ar longau arfordirol. Ar ddechrau'r 20fed ganrif, roedd tua 100 o longau y flwyddyn yn hwylio o Bwllheli, yn aml yn allforio cynnyrch amaethyddol o’r ardal a chludo glo i Ben Llŷn.

Cyflymwyd dirywiad yr harbwr fel porthladd brysur gan siltio, a oedd yn gwneud mynediad at y ceiau yn gynyddol anodd i longau. Mae'r afon Erch yn llifo i'r Harbwr Mewnol yn y gornel ogledd-ddwyreiniol. Mae'r ddwy afon yn gollwng mwd a cherrig wrth i’w llif arafu yma.

Yn y 1990au cynnar, crewyd Hafan Pwllheli ar ochr ddwyreiniol yr Harbwr Mewnol segur – marina gyda 410 o angorfeydd pontŵn a chyfleusterau perthnasol ar y tir. Erbyn 2002, roedd yr hafan yn cynnal tua 200 o swyddi lleol ac yn dod â £20m o incwm blynyddol i'r economi leol.

Mae'r ardal hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon dŵr, yn cynnwys gŵyl flynyddol o’r enw Wakestock, sy'n cyfuno tonfyrddio gyda cherddoriaeth ac adloniant arall.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Côd post: LL53 5YT    Map

 

button_tour_rebels-E Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button