Cyn-siop da da, Llanrwst

Cyn-siop da da, Stryd Ddinbych, Llanrwst

Mae'r siop lyfrau a deunydd ysgrifennu Bys Bawd, sy'n eiddo i Dwynwen Berry, yn meddiannu dwy siop blaenorol. Siop groser oedd rhif 29, ar y dde. Siop da da oedd rhif 27, yn eiddo i William Berry, sef tad Dwynwen.

Darganfuwyd esgid lledr plentyn mewn gwagle bach yn y wal yn ystod gwaith adeiladu yn rhif 29 yn yr 20fed ganrif. Gofynnwch wrth y cownter os hoffech ei gweld. Ystyrid esgidiau yn symbolau o ffawd dda. Cred llawer y byddai ysbrydion drwg yn cadw draw petai esgid – yn aml esgid treuliedig plentyn – wedi cael ei gadael mewn safle strategol yn y waliau neu o dan yr estyll. Mae'r traddodiad yn dyddio’n ôl ganrifoedd lawer, o bosibl at y Rhufeiniaid.

Roedd y siop da da yn fusnes sefydledig pan gymerodd Wil Berry yr awenau yn 1955 ar ôl cael ei orfodi o’r busnes teuluol gan ddisg llac yn ei gefn (“slipped disc”). Roedd ei dad Huw yn gwerthu glo ac yn cludo da byw (roedd y busnes wedi'i leoli yn 74 Stryd Ddinbych) ac hefyd yn hybys yn lleol fel gwenynwr. Yn y siop da da, gwerthai Wil fêl o gychod gwenyn ei dad a gwenynwyr lleol eraill. Roedd Wil, a ddaeth yn wenynwr ei hun, hefyd yn asiant i gwmni EH Taylor Ltd, gwneuthurwyr offer cadw gwenyn.

Ar fore angladd Huw, casglodd haid o wenyn wrth fynedfa’r fynwent. Aeth yr angladd yn ei blaen, er gwaethaf pryderon y trefnwyr angladdau. Yn y pen draw, glaniodd yr haid ar y blodau ar fedd Huw.

Gwerthai Wil hefyd tybaco a sigaréts, creision â'r halen mewn pecyn bach ar wahan, a diodydd swigod. Byddai pobl yn dychwelyd poteli pop i dderbyn blaendal bychan. Cyn iddi ddyfod yn ddigon hen i weithio y tu ôl i'r cownter, byddai Dwynwen yn helpu i lenwi jariau da da o’r blychau stoc yn yr ystafell gefn. Roedd cyffug a thaffi triog yn dod o gwmni Partington o Landudno. Byddai’r ystafell gefn yn agored i'r cyhoedd cyn y Nadolig a'r Pasg, pryd y byddai'r teulu yn creu arddangosfeydd o felysion.

Yn y 1980au, symudodd Arianwen Parry ei siop lyfrau Cymraeg o gyn-siop cigydd yn Nhanygraig i rif 29 Stryd Ddinbych, a chyfuno â busnes ei merch a oedd yn darparu offer swyddfa. Rhoddwyd yr enw Bys a Bawd ar y fenter newydd. Bryd hynny, roedd Dwynwen yn brysur ym myd ffilm a theledu, yn actio mewn nifer o ddramâu radio a theledu Cymraeg ac yn ysgrifennu neu olygu sgriptiau ar gyfer llawer arall. Daeth yn berchennog ar Bys a Bawd yn 2007. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ehangodd Dwynwen y siop i gynnwys yr adeilad drws nesaf – a oedd gynt yn eiddo i’w thad.

Gyda diolch i Dwynwen Berry

Cod post: LL26 0LL    Map

Gwefan Bys a Bawd