Cerdyn post Bae Colwyn: Sidney Colwyn Foulkes

CCBC logo for Post cards from colwyn bay tourCerdyn post gwenithfaen: Sidney Colwyn Foulkes

Image of granite postcard for Sidney Colwyn Foulkes

Mae’r cerdyn post gwenithfaen hwn ar y prom ym Mae Colwyn yn ymwneud â Sidney Colwyn Foulkes, a ddyluniodd nifer o adeiladau mwyaf prydferth Bae Colwyn. Roedd hefyd yn gyfrifol am sinemâu ar draws Gogledd Cymru yn ystod degawdau cynnar ffilm.

Ganed Sidney yn 1884. Datblygodd ei daid, adeiladwr, rannau o'r Rhyl. Roedd ei dad, Edward, yn adeiladwr hefyd, ac fe gododd y rhes nodedig o siopau i ochr orllewinol Ffordd Yr Orsaf ym Mae Colwyn.

Bu farw Edward pan oedd Sidney yn 16 mlwydd oed. Gan ddarganfod ei hunan mewn sefyllfa lle mai ef oedd prif enillwr cyflog y teulu, gweithiodd fel saer ac adeiladwr ym Mae Colwyn. Fe wnaeth gwylio ffilm mewn sinema deithiol - mewn cae ger Abergele - ei ysbrydoli i ddylunio ei sinema gyntaf, y Cosy Cinema ym Mae Colwyn. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma.

Portrait of architect Sidney Colwyn Foulkes

Enillodd Sidney ysgoloriaeth i Ysgol Saernïaeth Lerpwl, gan gymhwyso yn 1915. Yn 1914 fe enillodd gytundeb i ddylunio bythynnod yng Nghyffordd Llandudno. Ar ôl gwasanaethu gyda Gwasanaeth Awyr y Llynges Frenhinol (un o ragflaenwyr yr Awyrlu Brenhinol), fe weithiodd fel dylunydd awyrennau cyn dychwelyd i Fae Colwyn i sefydlu ei bractis ei hunan.

Mae’r cerdyn post yma’n dangos elfennau o du blaen 7 Ffordd Abergele, Bae Colwyn, a adeiladwyd yn 1930. Mae’n adeilad rhestredig oherwydd ei fod yn enghraifft o arddull Neo-glasurol Sidney. Rownd y gornel, ar Ffordd yr Orsaf, mae enghraifft fwy o'i ddyluniad siop, siop adrannol yn wreiddiol. Cliciwch yma i weld ein gwybodaeth a map ar gyfer yr adeilad hwn.

Roedd ei brosiectau eraill yn cynnwys adeiladau yn Ysgol Rydal, ysbyty, cofeb ryfel Llandudno, ystadau tai ym Miwmares a Llandrillo-yn-Rhos a thirlunio o amgylch gorsafoedd pŵer hydro-drydanol. Yn 1956 aeth i ymweld â’r pensaer enwog Americanaidd Frank Lloyd Wright. Derbyniodd OBE ac fe’i gwnaed yn Ryddfreiniwr Bwrdeistref Bae Colwyn. Bu farw yn 1971.

Gyda diolch i Graham Roberts o Gymdeithas Ddinesig Bae Colwyn

Cod post: LL29 8PT

Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.

Postcards from Colwyn Bay Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button