Ystad Y Wern gynt, Gilfachreda

tour logo and link to information page

Ystad Y Wern gynt, Gilfachreda

Yn ôl traddodiaid, roedd y tir yn y cyffiniau hyn yn eiddo i’r Wern pan  ymwelodd Harri Tudur â’r ardal ar ei daith i Bosworth ym 1485. Yn dilyn ei fuddugoliaeth yno, coronwyd ef yn Harri’r VII.

Heddiw mae rhan o’r tir yn eiddo i Barc Cabanau Gwyliau Woodlands.

Mae’r Wern nesaf at y ganolfan wyliau, tua’r gorllewin. Y Wern oedd enw’r y tŷ  yng nghyfnod Harri Tudur. Adeiladwyd rhan helaeth o’r tŷ a welwn heddiw c.1670 a newidiwyd yr enw i Wern Newydd yn y cyfnod hwnnw, yn ôl pob tebyg. Mae rhai o nodweddion yr hen dŷ yn dal yno, gan gynnwys yr ystafell, ystafell ymolchi erbyn hyn, lle y credir i Harri’n orffwys.

Wedi cyfnod o alltudiaeth yn Ffrainc, glaniodd Harri ym Mill Bay ar 7 Awst gyda byddin fechan. Teithiodd i gyfeiriad y gogledd ar unwaith. Mae’n debyg iddo gyrraedd Gilfachreda ar 11 Awst a’i groesawu i’r Wern gan y perchennog, Einion ap Dafydd Llwyd. Yn ôl traddodiad gorffwys mewn ystafell fach wnaeth Harri am mai arwain gwrthryfel bychan roedd ar y pryd, gwrthryfel hawdd ei wrthsefyll gan bobl deyrngar i ‘r brenin Richard III. Byddai ystafelloedd eang y tŷ yn rhy anodd i’w hamddiffyn yn erbyn asasin.

Mae’r Wern mewn cwm bychan o’r enw Gilfachreda a’r enw hwnnw, yn ôl pob tebyg, yn coffáu person o’r enw Reda.

Heddiw mae’r cwm yn hafan i adar a bywyd gwyllt. Yn 2014, am iddynt ymdrechu i amddiffyn a gwella’r amgylchedd, dyfarnwyd gwobr aur cynllun cadwraeth David Bellamy i Barc Cabanau Gwyliau Woodlands.

Diolch i Richard Morgan o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am wybodaeth am enwau lleoedd ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post : SA45 9ST    Map

Gwefan Parc Cabanau Gwyliau Woodlands

Henry Tudor’s route to Bosworth  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button