Gwesty Ye Wells cynt, Llandrindod

PWMP logo

Gwesty Ye Wells cynt, Llandrindod

Roedd yr adeilad ble mae campws Llandrindod Grŵp NPTC, yn un o westai mwyaf godidog y dref ar un adeg.

Yn y ddeunawfed ganrif ac yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd ambell i garreg milltir yn dangos pa mor bell oedd “ye wells”, a yngenir fel “The Wells”. Roedd hwn yn cyfeirio at yr ardal ble saif Llandrindod heddiw ac yn symbol o enw’r adeilad Fictoraidd hwn, sef Gwesty Ye Wells. Trosglwyddwyd yr enw i’r safle hwn pan gafodd y gwaith adeiladu ei gwblhau c.1907.

Old postcard of Ye Wells HotelUn o’r gwesteion cyntaf i ymweld â’r gwesty oedd Horatio Watkins, Is-siryf Morgannwg. Fe dreuliodd wyliau’r Pasg 1908 yma ond dychwelodd i Benrhyn Gŵyr pan anafodd asgwrn ei ben-glin ar ôl llithro ar un o loriau gloyw’r gwesty

Gwraig y gwesty oedd Mrs Bryan Smith, a gollodd ddau fab yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd James Clement Smith yn Is-lefftenant yn y Ffiwsilwyr Brenhinol ond  cafodd ei ladd yng Ngwlad Belg fis Mawrth 1916, yn 33 oed. Nid oes ganddo fedd a gwyddom amdano ac mae’n cael ei goffáu ar gofeb Glwyd Menin yn Ypres ac ar gofgolofn rhyfel Llandrindod. Ym mis Hydref 1916 daeth newydd i law bod llysfab Mrs Smith, Howard Bryan Smith, hefyd wedi’i ladd.

Fis Medi 1917 aeth Mrs Smith i’r tribiwnlys milwrol i erfyn dros ei mab arall Ernest, 38 oed, i gael ei ryddhau o wasanaeth milwrol. Plediodd bod Ernest wedi colli dau frawd yn y rhyfel a’i fod yn dioddef o glefyd ar y galon. Roedd rhaid iddo aros er mwyn rhedeg busnes y gwesty. Cafodd Ernest ei esgusodi dros dro.

Yn gynharach yn y rhyfel roedd y gwesty’n lletya dynion o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin. Ffurfiodd rhai ohonynt dîm pêl droed i chwarae yn erbyn timau eraill y Corfflu.

Dirywiodd y diwydiant ymwelwyr ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yn sgil hyn daeth Gwesty Ye Wells yn goleg hyfforddi ym 1947. Defnyddiwyd yr adeilad gan ysgol breswyl ar gyfer plant byddar o 1950 hyd c. 1973 ac ar ôl hyn daeth yn goleg addysg bellach.

Côd Post: LD1 5ES    Map

Gwefan Colegau Grwp NPTC

I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch i lawr at y cylchfan a throwch i’r chwith i mewn i Stryd y Deml. Mae’r codau QR nesaf wrth fynedfa’r amgueddfa beiciau
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button