Cerdyn post Bae Colwyn: Yr orsaf rheilffordd a’r brif linell
Cerdyn post gwenithfaen: Gorsaf a phrif linell Bae Colwyn
Mae’r cerdyn post gwenithfaen hwn ar y prom ym Mae Colwyn yn dangos arfbais cwmni Chester and Holyhead Railway, a drawsnewidiodd economi arfordir Gogledd Cymru. Mae’r rheilffordd yn parhau i gysylltu Llundain a Chaer i’r porthladd fferi yng Nghaergybi ac yn gwasanaethu trefi ar hyn yr arfordir. Mae’r rheilffordd yn eistedd ar arglawdd ar ochr fewndirol y prom.
Rhedodd y trên cyntaf i deithwyr o Gaer i Fangor ar 1 Mai 1848. Nid oedd gorsaf ym Mae Colwyn, nad oedd yn bodoli fel tref bryd hynny. Agorwyd yr orsaf gyntaf yma yn 1849 o dan yr enw Colwyn - fel y dangosir ar y cerdyn post gwenithfaen. Cliciwch yma i weld ein tudalen we am yr orsaf.
Arweiniodd yr orsaf at ddatblygu eiddo lleol, gyda pheth ohono'n gysylltiedig â'r twf mewn twristiaeth. Ailenwyd yr orsaf yn ‘Bae Colwyn’ yn 1876, a oedd dafliad carreg o’r traeth tywodlyd.
Wrth i draffig ar hyd y rheilffordd barhau i gynyddu, gosodwyd dau drac ychwanegol yn 1904 (gan wneud cyfanswm o bedwar). Derbyniodd yr orsaf blatfform ynys ychwanegol (gyda thraciau ar y ddwy ochr) ond yn 1905 protestiodd y cyngor lleol nad oedd yr orsaf yn ddiogel ar ddiwrnodau prysur yn yr haf. Adroddodd y wasg yn 1910 fod y platfformau wedi eu hymestyn – “mynegiant o’r datblygiad mawr sydd wedi digwydd o fewn y blynyddoedd diwethaf yn hyd y trenau i Ogledd Cymru”.
Heddiw mae’r A55 yn defnyddio peth o’r tir rheilffordd blaenorol, i’r de o’r traciau.
Cod post: LL29 8PT
Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.