Capel Bedyddwyr y Tabernacl, Llandrindod
Capel Bedyddwyr y Tabernacl, Llandrindod
Fe wnaeth adeilad y capel a welwch yma heddiw ddisodli un hŷn, c.1990. Y tu mewn iddo ceir dwy gofeb rhyfel a oedd yn wreiddiol yn y capel blaenorol Gweler isod am fanylion aelodau'r capel a fu farw yn y ddau ryfel byd.
Adeiladwyd capel cyntaf y Bedyddwyr yn y dref ym 1876 ar gost o ryw £900. Roedd lle i tua 400 o bobl eistedd ynddo ac roedd yn cynnwys ysgoldy, bedyddfan a festri. Roedd y tir a £25 yn rhoddedig gan Mr a Mrs John Bennett, 3 Norton Villas. Doedden nhw ddim yn Fedyddwyr.
Casglwyd rhoddion tuag at y costau adeiladu gan y Parch John Jones, gweinidog Capel y Bedyddwyr Rock, tua 6 km i'r gogledd o Landrindod. Bu'n weinidog yn y Tabernacl o 1876 tan 1897. Ym mis Mawrth 1904 roedd yn un o 19 o bobl a wynebodd achos llys am wrthod talu treth ar sail cydwybod. Roedd dros 80 mlwydd oed, ac fe wnaeth person anhysbys dalu ei dreth drosto.
Ym 1907 codwyd capel mwy yma, a gynlluniwyd gan E Peters Morris. Deuai ef o'r Drenewydd ond symudodd i Landrindod tua 1890, lle roedd yn ddiacon ac yn ysgrifennydd capel y Bedyddwyr. Costiodd yr adeilad newydd £4,450 ac fe’i hadeiladwyd ar y plot cornel lle mae Ffordd Dyffryn yn cwrdd â’r Stryd Fawr.
Cafodd y capel ei ddymchwel tua 1990 ac yn ei le codwyd adeilad llai ar ben gorllewinol y plot, gyda’r gweddill yn cael ei ddefnyddio ar gyfer maes parcio a thai.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, cododd y gynulleidfa blaciau i goffáu dynion a oedd wedi marw mewn gwasanaeth ac a oedd wedi addoli yn y Tabernacl. Yn eu plith roedd David, John ac Edward Hope, tri brawd a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Gyda diolch i Tom Evans
Cod post: LD1 6AN Map
Gwefan Capel Bedyddwyr y Tabernacl
I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch at y gyffordd-T a throwch i’r chwith. Mae’r codau QR nesaf y tu allan i Adeiladau’r Sir, sydd ar bwys y gyffordd |
First World War
- Berry, Walter Thomas, Private 31062. Died 04/12/1915 aged 19. Royal Welsh Fusiliers. Helles Memorial. Son of Henry and Mary Ann Berry of Holly Cottage. Tom took part in the Gallipoli campaign and died of disease on the hospital ship Nevassa.
- Bradley, Walter Victor, Private G/21503. Died 27/08/1918. Queen's Own (Royal West Kent Regiment). Buried Peronne Road Cemetery. Son of Mr and Mrs Walter Bradley, of “Tŷ Cerrig”.
- Hope, David Evan, Corporal. Died 27/03/1917 aged 27. David was a prisoner of war and died in Turkey. Son of Eliza Hope. Brother of Edward and John, below.
- Hope, Edward Aaron, Corporal 148131. Died 22/08/1918 aged 21. Machine Gun Corps. Buried Varennes Military Cemetery. Son of Aaron and Eliza Hope.
- Hope, John, Private 236726. Died 07/03/1917 aged 22. Herefordshire Regiment. Buried Kantara War Memorial Cemetery. Son of Aaron and Eliza Hope of 5, Brookland Road.
- Mills, David Joseph, Private M2/174967. Died 19/11/1917 aged 32. Army Service Corps. Buried Dar Es Salaam War Cemetery. Son of William Mills of Clewedog Cottage, Penybont Station.
- Reynolds, Arthur, Private 38139. Died 29/04/1918. Labour Corps.
- Weale, Arthur Sidney, Private 25603. Died 01/06/1918. King's Shropshire Light Infantry. Buried Braine-le-Comte Communal Cemetery.
Second World War
- Harper, Douglas Hayden, Sergeant 1196615. Died 20/03/1943 aged 32. Royal Air Force Volunteer Reserve. Runnymede Memorial. Son of William and Edith Harper.
- Jones, Ernest Aelwyn Pryce, Petty Officer Cook D/MX 49557. Died 08/06/1940 aged 26. Royal Navy - HMS Glorious. Plymouth Naval Memorial. Son of Louis and Elizabeth Jane Jones; husband of Megan Jones of Goodwick, Pembrokeshire.
- Rees, Eric Albert Duggan, Captain 240499. Died 04/12/1944 aged 29. Royal Artillery. Buried Forli War Cemetery, Italy. Son of William John and Lottie Minnie Rees; husband of Dorothy Joyce Rees, of Blaby, Leicestershire. Eric and Dorothy lived at “Brampton”, Llandrindod Wells.