Safle Ogof Coygan, ger Lacharn

Safle Ogof Coygan, ger Lacharn

Mae allt yn codi o’r tir amaeth gwastad i’r gorllewin o Lwybr Arfordir Cymru yn y fan hon. Ryw drigain metr i fyny’r llechwedd roedd Ogof Coygan. Fe’i defnyddid hi gan y Neanderthal ac wedi hynny gan udfilod! Erbyn hyn yn sgil gwaith cloddio calchfeini gan gwar cyfagos wedi dinistriwyd y safle ynghyd â’r rhan fwyaf o olion y gaer Frythonaidd-Rufeinig ar ben y bryn.

laugharne_coygan_handaxes
Bwyelli llaw Neanderthal o Ogof Coygan
© Amgueddfa Cymru – National Museum Wales

Câi Ogof Coygan ei defnyddio gan y Neanderthal rhwng CC 64,000  a CC 50,000. Mae’r bwyelli llaw y cafwyd hyd iddyn nhw yn yr ogof yn nodweddiadol o’r offer a ddefnyddid gan y Neanderthal - mae'r llun yn dangos esiamplau o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’n anhebyg bod pobl wedi byw yn yr ogof. Y tebyg yw mai cysgodfan i helwyr neu guddfan ar gyfer offer oedd yr ogof. Rhwng 1866 a 1963 darganfuwyd chwe darn o offer ar y safle gan archeolegwyr. Roedd y rhain wedi goroesi’r rhewlifiant diweddaraf (a ddaeth i ben c. 12,000 o flynyddoedd yn ôl).

Yn ystod Oes yr Iâ bu’n ffau i udfilod. Yn ogystal ag olion udfilod, cafodd archeolegwyr hyd i olion rhinoseros gwlanog, carw, mamoth ac arth frown – prae a lusgwyd i’r ogof gan udfilod, yn ôl pob tebyg.

Mae gwrthrychau fflint yn dangos fod y bryn yn cael ei ddefnyddio gan helwyr a fforwyr bwyd rhwng 10,000 a 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn y bedwared ganrif CC codwyd bryngaer ar y twmp. Bu pobl yn byw yma yn ystod yr Oes Haearn, yn ystod y cyfnod Rhufeinig ac ymlaen i’r canol oesoedd cynnar. 

Yr adeg honno, morfa heli fyddai’r tir islaw’r bryn. Erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg roedd y morfa yn eiddo i Syr Guy de Brian, ond roedd hawl gan fwrdeiswyr Lacharn i ddefnyddio rhannau ohono. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, collodd y bwrdeiswyr yr hawl hwnnw. Cawsant eu twyllo gan Syr John Perrot, Arglwydd Lacharn, a oedd am ehangu menter ffermio defaid ar y morfa. Yn sgil hynny gweddill bychan yn unig a adawyd  i’r bwrdeiswyr. The Lees yw’r enw ar hwnnw ac mae’n dal yn eiddo i Gorfforaeth Lacharn.

Adeiladwyd muriau i wrthsefyll grym y môr yn yr ail ganrif ar bymtheg ac yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a throdd y morfa yn dir amaethyddol o ansawdd da iawn. Er yr Ail Ryfel Byd, mae’r tir a fu gynt yn forfa heli yn rhan o faes tanio arbrofol y Weinyddiaeth Amddiffyn. 

Gyda diolch i Ken Murphy, o Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed

Cod post: SA33 4RP    Map

Mwy am Oesoedd Iâ a Phreswylwyr Ogofâu - gwefan Amgueddfa Cymru

Gwefan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button