Meithrinfa morloi Cwm Tudu

Meithrinfa morloi Cwm Tudu

cwmtydu_seal_pup_and_motherMae'r bae diarffordd hwn yn berffaith i forloi ifanc cyn eu bod yn barod i drochi am gyfnodau hir yn y môr. Os ymwelwch ar ddiwedd yr haf a'r hydref pan fydd morloi ar y traeth, mwynhewch wylio'r morloi ond cadwch eich pellter er mwyn osgoi aflonyddu arnynt. Rhaid cadw cŵn ar dennyn.

Mae morloi llwyd yn esgor mewn ogofâu lleol ond yn dod â'u morloi bychain i draeth Cwm Tudu i'w cadw'n ddiogel rhag y llanw uchel mewn cyfnodau stormus. Ar ôl diddyfnu, mae'r morloi bychain yn aros ar, neu’n agos at, y traeth nes iddynt aeddfedu digon i fynd allan i'r môr.

Mae grŵp Bywyd Gwyllt Bae Cwmtydu wedi monitro'r morloi ers ei ffurfio yn 2001, gyda’r bwriad yn y lle cyntaf o gadw llygad ar forlo bach a anwyd ar y traeth. Ers hynny, mae gwirfoddolwyr wedi gweld y morlo gwryw leol yn helpu i edrych ar ôl morloi bychain – ymddygiad anghyffredin iawn. Dangosir y lluniau o forloi ar y traeth yma trwy garedigrwydd y grŵp.

cwmtydu_beach_with_sealsHen odyn galch yw’r strwythur crwn nepell o'r lan. Roedd angen calch ar ffermwyr lleol i ffrwythloni eu caeau ond Ceredigion oedd yr unig sir yng Nghymru heb galchfaen ei hun. Cariwyd calchfaen a glo i Gwm Tudu a chymunedau eraill ar hyd arfordir Ceredigion mewn llongau bychain. Llwythwyd y garreg trwy ben yr odyn a'i llosgi. Tynnwyd y calch gorffenedig o'r tyllau yn y gwaelod.

Ynglŷn â'r enw lle:

Mae Cwm Tudu yn dynodi dyffryn a bethynai i berson o'r enw Tudi. Mae enwau tebyg yng Nghernyw a Llydaw. Fe'i hysgrifennwyd fel Cwm tydy ym 1595, ffurf sy'n ymddangos fel petai'n gwrthbrofi'r chwedl leol bod yr enw lle yn ymwneud â Harri Tudur.

Gyda diolch i Pauline Bett, ac i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am yr wybodaeth am yr enw lle

Gwefan Bywyd Gwyllt Bae Cwmtydu

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button