Yr Hen Farchnad Wlân, Hwlffordd

button-theme-textileYr Hen Farchnad Wlân, Hwlffordd

Marchnad Wlân, yn wreiddiol, oedd yr adeilad hwn. Mae’n perthyn i’r ddeunawfed ganrif. Roedd ei safle gerllaw’r Hen Gei yn gyfleus ar gyfer llwytho cychod â gwlân oedd newydd ei brynu. Mae llechen (ac arni’r dyddiad 1777) ar yr adeilad. Mae’n coffáu ailgodi’r cei. Diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am ganiatád i ddangos y llun o’r afon a’r cei c.1830.

Drawing of Haverfordwest quary c.1830Mae pen arall yr adeilad â’i wyneb at Stryd y Cei, man hwylus i ddadlwytho gwlân o’r ceirt a fyddai’n cyrraedd o ffermydd cyfagos. Penodwyd unigolion gan gyngor y dref i gasglu tollau o’r marchnadoedd lleol. Yn 1841 crynhowyd tollau gwerth £7 yn y farchnad wlân gan ŵr o’r enw John Hudson a’i gydweithiwr.

Roedd mordwyo ar hyd Cleddau Wen hyd at Hwlffordd yn hanfodol bwysig i’r dref yn yr oesoedd canol, pan ymsefydlodd pobl o dras Normanaidd a Ffleminaidd yma. Noda’r archddiacon a’r awdur Gerallt Gymro (c.1146-1223) bod gan Ffleminiaid Sir Benfro (o Fflandrys yng Ngwlad Belg) arbenigedd yn y fasnach wlân. Daeth de-orllewin Cymry yn adnabyddus yn sgil y gwehyddion Ffleminaidd a’u disgynyddion.

Ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg roedd pryder fod masnachwyr gwlân yn taro bargeinion cyfrinachol am wlân Sir Benfro ac yn ei gludo i “fannau anhysbys”. Roedd hynny’n golygu bod gweithwyr lleol y diwydiant tecstiliau yn cael eu hamddifadu o ddefnyddiau crai. O ganlyniad, pennwyd rheolau newydd ac o hynny ymlaen Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod a Phenfro oedd yr unig ganolfannau cydnabyddedig ar gyfer gwerthu gwlân.

Mae’n bosibl bod y bwâu ar lawr gwaelod yr Hen Farchnad Wlân wedi bod yn agored yn wreiddiol ac iddyn nhw gael eu cau yn ddiweddarach, pan ddaeth yr adeilad yn warws. Symudodd y farchnad wlân i’r Gyfnewidfa Ŷd newydd yn 1851. Yn ddiweddarach gosodwyd hen adeilad y farchnad ar rent i denantiaid gan Fwrdeisdref Hwlffordd.

Mae amryw fudiadau wedi defnyddio’r adeilad ar gyfer swyddfeydd. Symudodd Cyngor Tref Hwlffordd i’r adeilad yn Rhagfyr 2020.

Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA61 1BG    Map Lleoliad