Safle braslun cyntaf Land Rover, Traeth Coch

Safle braslun cyntaf Land Rover, Traeth Coch

 

Yn 1947 gwnaeth y peiriannydd mecanyddol Maurice Wilks y llun cyntaf erioed o Land Rover ar y traeth yma, er mwyn iddo egluro i'w frawd ei gysyniad o gerbyd a fyddai’n medru gyrru dros unrhyw dir. Roedd y Land Rover Defender yn un o’r cerbydau ffordd mwyaf llwyddiannus mewn hanes – gwnaed mwy na dwy filiwn cyn i’r cynhyrchu ddod i ben ym mis Ionawr 2016.

Ganed Maurice Wilks yn 1904 a bu’n gweithio i wneuthurwyr ceir yn UDA a Lloegr cyn dod yn brif beiriannydd Rover ym 1930. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’n arwain tîm o beirianwyr Rover a ddatblygodd injan awyrennau tyrbin nwy ymarferol. Roedd hefyd yn rhan o dîm Rover a wellodd ar ddyluniad peiriant jet arloesol Frank Whittle.

Ar ôl y rhyfel, gyrrai Maurice Jeep fyddin gynt ar y fferm yr oedd wedi’i phrynu ar Ynys Môn fel encil (yn Swydd Warwick oedd ei brif gartref). Gwnaeth y Jeep, a wnaed yn UDA gan Willys, iddo feddwl am fath newydd o gerbyd a fyddai'n addas ar gyfer ffermwyr, yn arbennig.

Yn 1947 bu'n trafod y cysyniad tra ar ymweliad â Thraeth Coch gyda'i frawd Spencer, a oedd yn rheolwr gyfarwyddwr Rover. Er mwyn dangos sut y gallai'r cerbyd gael ei ffurfweddu, crafodd Maurice fraslun yn y tywod yma. Symudodd y gwaith datblygu a phrofi yn ei flaen yn gyflym, a lansiwyd fersiwn masgynhyrchuol y Land Rover yn 1948.

Bu farw Maurice yn 59 oed yn ei gartref ar Ynys Môn ym 1963 a chladdwyd ef yn Llanfair yng Nghwmwd, ger Niwbwrch.

Am yr enw lle:
Mae Traeth Coch yn dynodi lliw y gwastadeddau llaid a welir yma. Ysgrifennwyd yr enw Saesneg fel The bay of the Reyde Warth yn yr 16eg ganrif a Red Warth yn 1617. Roedd Warth, a ddefnyddid yn gyffredin yn ne-orllewin Lloegr, yn golygu glan môr neu draethell. Roedd yr enw wedi esblygu i Red Wharfe erbyn 1730, o bosibl oherwydd bod harbwr wedi bodoli yma ers y canol oesoedd.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am fanylion yr enw lle

Cod post: LL75 8RJ    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button