Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandrindod

button-theme-women PWMP logo

Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandrindod

Roedd digon o le ar gyfer 500 sedd pan agorodd yr eglwys hon ym 1871. Yn gyntaf roedd yn cynnig gwasanaethau ar gyfer ymwelwyr yn yr haf. Ar adegau eraill roedd addolwyr yn teithio’r tu allan i’r dref i Hen Eglwys y Plwyf neu eglwys Cefnllys.

Rhoddodd y tirfeddiannwr lleol Edward Middleton Evans y tir ar gyfer safle’r eglwys newydd. Rhan uchaf Comin Cefnllys oedd y llecyn hwn ar y pryd.

Adwaenid yr adeilad fel Christ Church hyd at 1881, pan gafodd ei chysegru i’r Drindod Sanctaidd. Mae Llandrindod yn golygu “eglwys y drindod”. Mae’r rhan fwyaf o enwau lleoedd gyda’r rhagddodiad “Llan” yn cael eu henwi ar ôl eglwysi cynnar. Ond clywid yr enw plwyf Llandrindod ar lafar ganrifoedd cyn cysegru’r eglwys leol! Cofnodwyd yr enw fel Llan Yr dryndot ym 1543 a Llandrindod ym 1549.

Ail reithor yr eglwys oedd Henry de Winton, archddiacon Aberhonddu. Trefnodd i reithordy mawr gael ei adeiladu gerllaw – a dyma du blaen Gwesty’r Commodore erbyn heddiw.

Tyfodd Llandrindod yn gyflym fel tref ffynhonnau yn sgil agor yr orsaf reilffordd. Ehangwyd yr eglwys sawl gwaith i gynyddu nifer y seddau i 1,400 erbyn i’r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau.

Roedd y rhyfel yn golygu gohirio datgysylltu’r Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr. Ym 1920 etholwyd Dr Alfred George Edwards yn Archesgob cyntaf Cymru fan hyn yn Eglwys y Drindod Sanctaidd. Byth ers hynny mae pob un o’i ddilynwyr wedi cael eu hethol yn yr eglwys hon, oherwydd ei lleoliad yng nghanol Cymru.

Mae triptych pren y tu mewn i’r eglwys yn coffáu dynion lleol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Cewch weld eu manylion ar ein tudalen am brif gofgolofn y dref. Mae gan yr eglwys ffenestr liw er cof am y rhai a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cododd rhieni Preifat Cecil John Edwards blac yn yr eglwys er cof am eu mab a laddwyd ym mis Gorffennaf 1917 yn ugain oed. Mae plac arall yn coffáu Preifat Charles Cheffers a oedd yn 30 oed pan gafodd ei ladd ym mis Gorffennaf 1918. Gosodwyd y llechen gan ei weddw a oedd yn byw yn Craig Road.

Codwyd tŵr yr eglwys ym 1995 i ddal rhes o glychau.

Gyda diolch i Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am y wybodaeth am rai o’r enwau lleoedd.

Côd Post: LD1 5EQ    Map

I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, dilynwch Spa Road hebio talcen yr eglwys a pharhewch at Westy’r Commodore
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button