Lleoliad dianc Harri Tudur, Harbwr Dinbych y Pysgod

Tudor Rose logo with link to more information pageLleoliad dianc Harri Tudur, Harbwr Dinbych y Pysgod

O sganio’r codau QR wrth Swyddfa’r Rheolwr Harbwr, fe welwch Harbwr Dinbych y Pysgod i lawr y llethr. Byddai cwrs hanes Prydain yn dra gwahanol os na fyddai’r Harri Tudur ifanc wedi dianc oddi yma yn 1471 i’w alltudiaeth 14 mlynedd yn Ffrainc. Dychwelodd yn ôl i Sir Benfro yn 1485 gan ddod yn frenin Harri’r Seithfed, gan sefydlu’r llinach Tuduriaid o Fôn.

Porthladd gwaith oedd hwn pan adeiladwyd Swyddfa’r Rheolwr Harbwr yn 1870au ar gyn safle tŷ pwyso, lle'r oedd certi’n cael eu pwyso. Heddiw lle i gychod pleser ydyw. O fynd i lawr yr allt edrychwch yn ôl i weld talcen gogleddol yr adeilad a gweld y baromedr Fictoraidd.

Gwellwyd yr harbwr yn 1840au pan ledaenwyd y morglawdd.

Yn amser Harri Tudur roedd Dinbych y Pysgod yn un o borthladdoedd prysuraf Cymru. Fe wellhaodd ei ewythr Jasper, Iarll Penfro, waliau gwarchodol y dref yn 1457 gan i’r trefolion gytuno i dalu hanner y gost. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosod fe ddygwyd tiroedd Jasper gan y Brenin Efrogaidd Edward y Pedwerydd. Ond fe barhaodd i warchod yr Harri ifanc, a gynrychiolai gobeithion y Lancastriaid o ennill y frenhiniaeth erbyn 1471. Mwy na thebyg Jasper a Harri oedd y ddau mwyaf pwysig oedd angen eu dal a’u canfod yng Nghymru a Phrydain gyfan ar y pryd. Fe lwyddwyd eu symud i Ddinbych y Pysgod o gastell Penfro er bod y dref o dan warchae gan filwyr y brenin.

Cuddiwyd y pâr gan y teulu White dan lawr eu tŷ, sydd ger Eglwys y Santes Fair, tan fo llong yn barod iddynt. Bu twnelau tanddaearol, sy’n dal i fodoli gan gysylltu tai ac adeiladau eraill, yn gymorth i’r ddau ddod i’r harbwr heb eu canfod. Ar yr ail o Orffennaf dan lyw nos hwyliodd y ddau am Ffrainc. Gorfododd tywydd gwael iddynt lanio yn Llydaw a oedd yn wlad annibynnol ar y pryd.

Ar ôl ei goroni fe roddodd Harri brydles o’r tiroedd o amgylch Dinbych i’r teulu White.

Diolch i Gwyndaf Hughes am y cyfieithiad

Cod post: SA70 7BS    Gweld Map Lleoliad

Gwefan yr harbwr