Neuadd Dewi Sant, Caerdydd

Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd

St David's Hall, Cardiff, under constructionNeuadd Dewi Sant, a agorwyd ym 1982, yw Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Cymru. Roedd awydd cyhoeddus a gwleidyddol i gael lleoliad o’r fath yn mynd nôl i’r 1950au. Dim ond pum mlynedd fu rhwng y syniad gwreiddiol a chwblhau’r neuadd.  Y canlyniad oedd awditoriwm gyda’r acwsteg gorau o bosib yn Ewrop.

Ar 30 Awst 1982 denodd diwrnod rhagolwg 21,000 o bobl. Ddyddiau yn ddiweddarach cafwyd y perfformiad byw cyntaf, ymarfer agored am ddim gan Gôr Polyffonig Caerdydd ar 8 Medi. Cynhaliwyd y perfformiad â thâl cyntaf gan Fand Canolog y Llu Awyr Brenhinol, a ddilynwyd yn agos gan ddatganiad gan yr organydd Americanaidd Carlo Curley. Cynhaliwyd y cyngerdd pop cyntaf ar 16 Medi 1982 – perfformiad i neuadd llawn dop gan y grŵp ‘soul’ Prydeinig, Hot Chocolate.

Photo of St David's Hall auditorium under construction

Agorwyd y lleoliad yn ffurfiol gan y Fam Frenhines ar 15 Chwefror 1983. Mae Tom Jones a Shirley Bassey ymhlith yr artistiaid fwynhaodd berfformio yn y lleoliad yn ystod yr wythdegau – a dechreuodd y Manic Street Preachers firienio’u crefft tra’n bysgio ger y fynedfa yn eu harddegau!

Rhoddwyd y dasg anodd i’r Penseiri, Partneriaeth Seymour Harris, o osod awditoriwm 2,000 o seddi – gydag ystafelloedd gwisgo, barrau, cynteddau, swyddfeydd a chyfleusterau cynadledda – mewn gofod cyfyngedig yng nghanol y ddinas. O ganlyniad sicrhaodd y contractwyr John Laing & Son Construction Ltd y defnyddiwyd pob modfedd o ofod yn effeithiol, gan roi siâp hynod anarferol i’r neuadd gyngerdd.

Photo of St David's Hall organ under construction

Ym mis Hydref 2016, gosodwyd Neuadd Dewi Sant gan y wefan cyfryngau Business Insider UK yn nawfed yn rhestr Deg Uchaf neuaddau cyngerdd y byd, ar y blaen i'r Albert Hall a Thŷ Opera Sydney a lleoliadau enwog eraill.

Cyngor Caerdydd sydd berchen ar y neuadd ac sy’n ei rheoli a’i hariannu gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Yn flynyddol mae’n cynnal tua 300 o berfformiadau, a fynychir gan dros 250,000 o bobl. Mae’n cynnal digwyddiadau mawr gan gynnwys BBC Canwr y Byd Caerdydd, y Gyfres Gyngherddau Rhyngwladol, Proms Cymru a Gwobrau BAFTA Cymru.

Cod post: CF10 1AH Map

 

Gwefan Neuadd Dewi Sant

Troednodiadau:  Mwy o Sêr

Yn ogystal â cherddoriaeth glasurol, bale ac opera o safon byd, mae toreth o sêr amrywiol wedi troedio llwyfan yr awditoriwm gan gynnwys Syr Anthony Hopkins, U2, Adele, Syr Elton John, Ray Davies, Tina Turner, Miles Davies, Joe Calzaghe, Brian Wilson a Syr Ranulph Fiennes ymhlith llawer eraill.

Mae llwyth o gomedïwyr hefyd wedi troedio’r llwyfan. Mae gofod perfformio llai'r lleoliad, sef Lolfa L3, wedi rhoi cyfleoedd i berfformwyr ifanc gan gynnwys Amy Winehouse, Jamie Cullum a John Bishop.

Cyfoethogodd y Neuadd gerddoriaeth gerddorfaol yn Ne Cymru, gydag ymweliadau gan gerddorfeydd, arweinyddion ac unawdwyr gorau’r byd a pherfformiadau cyson gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd wedi cynnig llwyfan i ensembles amatur, cerddorfeydd ieuenctid a Cherddorfa Ffilharmonig Caerdydd.

St Davids Hall foyer  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button