Hen dwnnel rheilffordd Llanberis

sign-out Link to commissioned work information pages

Hen dwnnel rheilffordd Llanberis

llanberis_railway_by_llyn_padarnCrëwyd y geuffordd hon yn yr 1860au ar gyfer cangen o reilffordd y London & North Western Railway rhwng Llanberis a Chaernarfon. Wrth i chi gerdded neu feicio drwyddi, sylwch fod y geuffordd wedi'i naddu o'r graig, ac nid oes angen gorchudd o friciau i'w chynnal. Pont yw'r bwa ar ochr Llanberis ohoni, ac mae wedi'i chysylltu i'r twnnel. Mae'n cludo'r brif ffordd dros lwybr y rheilffordd.

Deuai llawer o dwristiaid i Lanberis ar y trên. Efallai y gallwch ddychmygu eu cyffro wrth i'r trên adael y twnnel a hwythau'n gweld y golygfeydd clir cyntaf ar draws Lyn Padarn at fynyddoedd trawiadol Eryri. Mae'r llun yn dangos y cledrau wrth ymyl y llyn y 1890au.

Y prif reswm dros adeiladu'r rheilffordd oedd cludo llechi o chwareli ardal Llanberis. Roedd ffordd haearn bach eisoes yn bodoli ar ochr arall y llyn, ond roedd honno ar gyfer mynd â llechi i'r doc yn Y Felinheli (neu Bort Dinorwig fel y'i gelwid bryd hynny) i'w cludo wedyn ar longau. Cysylltwyd lein yr LNWR gyda phrif rwydwaith y rheilffyrdd a byddai wagenni wedi'u llwytho yn Llanberis yn teithio ar eu hunion i'r trefi a'r dinasoedd lle'r oedd angen llechi ar gyfer toeau.

Yn y 1930au fe'i disodlwyd gan drafnidiaeth ffordd, a gadawodd y trên nwyddau olaf Lanberis ym mis Medi 1964. Heddiw, mae Lôn Las Peris yn olrhain llwybr yr hen reilffordd o'r twnnel i feysydd parcio glan y llyn. I'r gorllewin o'r twnnel, ailddefnyddiwyd yr hen reilffordd yn y 1980au i adeiladu lôn newydd yr A4086.

Map

LON LAS PERIS Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button