Gwesty’r Bear, Crughywel

Gwesty’r Bear, Crughywel

Yn ôl pob sôn, y tu ôl i wyneb Sioraidd yr adeilad hwn, a fu unwaith yn dafarn i’r goetsh fawr, saif adeilad hŷn o lawer sy’n dyddio o tua 1430. Mae cwrw a bwyd yn dal i gael eu storio mewn seleri bwaog a adeiladwyd o bosib yn y 18fed ganrif. Adwaenid y gwesty ar un adeg fel y White Bear.

Yn ôl traddodiad, cymerodd milwyr oedd yn deyrngar i Syr Richard Evans eu diod olaf yma ym 1485 cyn ymdeithio i ymuno â byddin Harri Tudur oedd wedi glanio yn Sir Benfro ar ôl bod yn alltud ac oedd ar fin ennill Brwydr Bosworth a chael ei goroni fel y Brenin Harri VII.

Honnir bod peth o’r coed yn y rhan hynaf o’r dafarn yn dod o iard yng Nghasnewydd a fyddai’n achub pren o hen longau. Gallwch weld rhigolau ar hyd un o’r trawstiau sy’n awgrymu rhyw ddefnydd gwahanol yn y gorffennol. Hefyd i’w gweld yn yr ystafell hon mae’r botymau y byddai cwsmeriaid yn eu gwasgu i alw am y gwas stabal, “Boots” (a ofalai am esgidiau’r cwsmeriaid), y forwyn neu weinydd.

Ym 1867 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Ngwesty’r Bear i gefnogi cynllun i adeiladu rheilffordd drwy Grughywel i gysylltu â’r Fenni ac Aberhonddu. Teimlai rhai o’r siaradwyr fod pobl yn gwneud hwyl am ben Crughywel oherwydd ei bod 7 milltir (11km) o’r orsaf reilffordd agosaf tra oedd gan bentrefi anghysbell fel Llangamarch eu gorsafoedd eu hunain. Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Dyffryn Crughywel ond nid adeiladwyd yr un rheilffordd fyth.

Yn lle hynny, bu’n rhaid i bobl y dref ddygymod â gwasanaeth coetshis rhwng y Fenni ac Aberhonddu a lansiwyd 1 Mai 1875. Nododd gohebydd papur newydd a deithiodd ar y goets gyntaf i’r gyrrwr stopio ger Gwesty’r Bear ‘lle cafodd cegau’r ceffylau eu golchi’n lân.’

Cerbydau a dynnid gan geffylau oedd y prif ddull trafnidiaeth o hyd ym 1899 pan hysbysebodd Gwesty’r Bear am ‘Gwas-Coetsmon sy’n gallu gyrru pâr’ (dau geffyl mewn harnais). Roedd y stablau y tu ôl i’r gwesty ei hun gyda mynediad o Standard Street. I geffylau’r goets bost roedd y fynedfa fwaog, sy’n dal i ddangos y geiriau “Ceffylau’r Post”. Yn union y tu allan i’r fynedfa yma mae dau ris carreg, fwy na thebyg i helpu pobl i fynd i mewn ac allan o’r coetshis post.

Ym 1906, cronnodd pwll mawr o ddŵr ar y ffordd y tu allan i Westy’r Bear yn ystod glaw trwm. Fel mae’r ffotograff yn dangos, rhoddodd dyn lleol dwba ynddo gan fynd ati i gogio pysgota. Gweithred ddychanol oedd hon. Roedd rhai o bobl y dref wedi bod wrthi’n ymgyrchu i’r cyhoedd gael pysgota a mynd mewn cychod ar afon Wysg. Roeddent o’r farn y byddai hyn yn denu twristiaid. Honnai’r dyn yn y twba mai ef oedd y person cyntaf yng Nghrucywel i gael pysgota a mynd mewn cwch am ddim yn yr ardal!

Robert Masters a ddaeth yn landlord y gwesty ym 1919. Roedd wedi ymuno â Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin ym 1914 ac yn nes ymlaen derbyniodd y Groes Filwrol am ei wrhydri. Gwasanaethodd y cyn-landlord, Franklin Hardeman, yn y rhyfel fel swyddog gyda Chyffinwyr De Cymru.

Ym 1915, Cyrus Thomas, landlord Gwesty’r Bear, fu’n gyfrifol am gydlynu rhoddion da byw gan ffermwyr lleol i arwerthiant er budd y Gronfa Genedlaethol i Filwyr Cymreig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ef oedd trysorydd apêl i godi arian am wats aur i’r Lefftenant Amos Barroll a dderbyniodd y Groes Filwrol am aros yn ei safle am bum niwrnod mewn gorchest amddiffynnol a ystyriwyd fel y tro cyntaf i ynnau peiriant Prydeinig lwyddo i ddileu magnelfa o “whizz-bangs” Almaenig (magnelau a daniai sieliau ysgafn a chyflym).

Estynnwyd yr adeilad am nôl yn y 1980au gan ychwanegu ystafelloedd gwely a chegin newydd.

Cod post: NP8 1BW  Map

I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cerddwch tua’r de o’r gwesty a throi i’r chwith i Standard Street. Dilynwch y ffordd i fyny at Fferm Upper House
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button