Fortune’s Frolic, Hwlffordd

Enw’r llwybr hwn ar hyd glan yr afon yn Ionawr 1844 oedd Fortune’s Frolic. Bryd hynny y cafodd y llwybr ei wella, yn sgil llafur ryw ddeugain neu hanner cant o labrwyr di-waith. Mae’r llun a ddangosir yma, trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn perthyn yn fras i’r cyfnod hwnnw. Golygfa o Fortune’s Frolic yw’r disgrifiad a roir i’r llun.

haverfordwest_fortunes_frolicMae’r llwybr – sydd i’w weld ar waelod y llun, ar yr ochr dde – yn arwain at bentref Uzmaston sef ‘anheddiad Osmund’. Enw personol yw Osmund a gafodd ei gyflwyno i’r fro, yn fwy na thebyg, naill ai gan wladychwyr o Saeson neu gan Eingl-Normaniaid neu Fflemisiaid yn y ddeuddegfed ganrif.

Y swae lleol yw i ŵr bonheddig lleol o’r enw Samuel Fortune gael ei weld yng nghwmni gwraig ieuanc ar y llwybr dan amodau a fyddai wedi creu embaras enbyd ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Cafodd ei herio a chafwyd gornest a bu farw Samuel yn sgil hynny. 

Yn fuan wedyn daeth ffars o’r enw Fortune’s Frolic yn boblogaidd mewn theatrau ym Mhrydain. Mae’n bosibl mai smaldod cymeriadau lleol, a’u hawydd i roi hanes anturiaeth Samuel ar gof a chadw, sy’n gyfrifol am yr enw ar y llwybr. Erbyn 1853 collwyd y gair cyntaf yn y cyfuniad. Adrodd hynt helynt adeiladu’r rheilffordd gerllaw’r “Frolic” yn unig a wna’r wasg leol.

Enw’r stemar newydd gyntaf i gyrraedd Hwlffordd yn 1830 oedd y Frolic. Cafodd ei hadeiladu ar gyfer teithio rhwng Sir Benfro a Bryste. 

Mae map Arolwg Ordnans 1887 yn nodi Fortune’s Frolic ynghyd â gwaith nwy’r dref ar driongl o dir i’r de o’r man lle mae’r llwybr yn mynd dan y rheilffordd. Roedd glo yn cael ei losgi i gynhyrchu’r nwy a byddai hwnnw’n cael ei ddosbarthu trwy bibau er mwyn goleuo’r dref. Mae’r map yn cynnwys Higgons’ Well tua’r deau. 

Byddai Regata Hwlffordd yn cael ei gynnal ar yr afon islaw Higgons’ Well yn oes Fictoria a thorfeydd yn gwylio’r cystadlu o’r Frolic. 

Yn Awst 1899 roedd llygod mawr yn bla ar y Frolic. Bu llanw anarferol o uchel a chafodd y llygod eu gyrru o’u llochesau ar hyd y glannau. Roedd rhai wrth eu bodd yn gwylio’r llygod ond pan gyrhaeddodd y daeargwn lleol bu lladdfa waedlyd. Cafodd ryw gant o lygod eu difa y noson honno a dwsinau ar nosweithiau eraill. 

Ac yntau’n ddeddeg oed, boddwyd John Henry Thomas ger cei’r gwaith nwy (‘Gas Quay’) yn 1904. Bu ef a dau gyfaill iddo yn ymdrochi yno droeon ond ni allent nofio. Aeth gweithwyr o’r gwaith nwy i chwilio am y plentyn. Ymunodd Lewis Gibbon, piwpil-titsiar (ac athro John), â’r chwilio a dod o hyd i’r corff. Dywedodd y crwner yn y cwest i farwolaeth John y dylai ysgolion lleol ddysgu nofio yn hytrach na dysgu canu. 

Yn 1908 boddodd Joseph Reilly, 42 oed, wedi i’r cets roedd yn gogydd ar ei bwrdd daro gwaelod yr afon ger y Frolic. Syrthiodd i’r dŵr wrth geisio dringo i gwch a aeth i’w achub.

Diolch i Richard Morgan a'r Athro Dai Thorne,o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Map