Olion Gwaith copr, Penmaen Melyn, ger St Tyddewi

Olion Gwaith copr, Penmaen Melyn, ger St Tyddewi

Yma mae llwybr yr arfordir ar ychydig o dir gwastad, a sail adeilad i’w weld yn wynebu’r môr. Dyma safle Gwaith copr Treginnis.

Credir bod y Gwaith mwyn yn bodoli erbyn y 1820au. Cofnodwy bod mwynau yma yn 1839 gan y daearegwr enwog Syr Roderick Impey Murchinson yn ei gyfrol ar y system Silwraidd. Ni chrybwyllir y gwaith mwyn fel y cyfryw ganddo ond mae map degwm 1840/41 yn dangos dau adeilad o’r enw Cuba ar y safle a ffordd yn arwain atyn nhw. Rhaid bod hwnnw’n gysylltiedig â’r Gwaith mwyn.

Mae’n ymddangos bod y gwaith yn gweithio bob hyn a hyn tan i ddamwain ddigwydd yn 1883. Roedd John Reynolds yn cael ei godi ar hyd y siafft, a oedd ryw ugain medr o ran dyfnder pan ysgwydodd y rhaff a disgynnodd Reynolds o’r ‘twba’ a dioddef niweidiau angheuol. Ar ei wely angau mynnai fod cydweithwyr yn ei gasáu a’u bod yn ysgwyd y rhaff yn fwriadol. Cyhuddwyd dau ddyn o ddynladdiad. Cawsant eu rhyddhau. Gadawodd John wraig Phebe a dau o blant.

Mae map Arolwg Ordnans 1888 yn dangos fod y gwaith yn segur. Bu cais aflwyddiannus i ailagor y gwaith yn 1907. Mwyngloddiwyd calcopyrit, sylffid haearn copr (CuFeS2) mewn gwythïen gwarts.

Ychydig i’r de mae Pen Dal-aderyn, y man mwyaf gorllewinol ar dir mawr Cymru. Dyma, yn ogystal, fan culaf Swnt Dewi, rhwng y tir mawr a’r ynys gyferbyn. Roedd yn atgas gan y morwyr. Collwyd tri aelod o griw cwch achub Tyddewi yn 1910 tra’n ceisio cynorthwyo cetsh. Gallwch ddarllen am y gofeb iddyn nhw yn Nhyddewi yma.

Yr enw ‘Pen Dal-aderyn’:
Mae’n ymddangos bod yr enw’n dynodi pentir lle’r roedd adar yn cael eu dal. Mae wedi’i gofnodi Pen dal aderyn yn 1843 a Trwyn Talderyn yn 1840. Mae’r union ystyr yn ansicr gan fod pen, tâl a trwyn yn agos o ran eu hystyr ond mae’n bosibl mai enw’r pentir ar un adeg oedd Tâl Aderyn – a hwnnw’n dynodi pentir a oedd yn enwog am adar. Mae’n bosibl bod tâl wedi ei ychwanegu’n ddiweddarach wrth i ddryswch godi rhwng tâl a dal yn sgil yr arfer cyffredin gynt o ddal adar a chymryd eu hwyau er mwyn eu bwyta. 

Diolch i Michael Statham, o Fforwm Cerrig Cymru, ac i Richard Morgan, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button