Adfeilion barics y Dre Newydd, Dinorwig

Adfeilion barics y Dre Newydd, Dinorwig

Photo of interior of barracks at Wrysgan slate quarry
Llun mewnol o farics yn chwarel llechi Wrysgan, ger Blaenau Ffestiniog
© Gwasanaeth Archifau Gwynedd

Codwyd y tai bychan hyn yn yr 1870au a dyma lle byddai chwarelwyr oedd yn byw yn rhy bell i fynd adref bob nos yn byw. Mae dwy res o 11 tŷ a godwyd â blociau ithfaen. Gelwid y grwpiau hyn o dai yn farics. Dre Newydd yw enw hwn – Anglesey Barracks yn Saesneg am fod cynifer o chwarelwyr Dinorwig yn dod o Sir Fôn.  Fodd bynnag, nid o Fôn y deuai pawb oedd yn byw yma. 

Teithiai dynion o bob rhan o’r gogledd i weithio yn Ninorwig, y rhan fwyaf o Wynedd a Môn. Roedd y mwyafrif yn mynd adref dros y penwythnos. Perchnogion y chwareli oedd yn codi’r barics i’r gweithwyr fyw ynddynt. Tai bychan, dwy ystafell oeddynt. Roeddent yn oer, yn llaith ac yn ddrafftiog ac roedd yr amodau byw yn wael. 

Byddai chwarelwyr oedd yn byw yn y barics yn mynd i Ddeiniolen, Dinorwig a Llanberis i’r capel neu’r eglwys ac i ymlacio yn y tafarndai. Roedd y gweithwyr o Fôn yn galw Deiniolen yn Llanbabo, ar ôl y pentref o’r un enw ar yr ynys.

dinorwig_quarry_anglesey_barracks_2013
Llun diweddar o’r barics. Tynnwyd ym mis Mai 2013.
© Hawlfraint y goron. CBHC

Pan ddechreuwyd cloddio tua diwedd yr 1780au, dynion lleol oedd y rhan fwyaf o’r chwarelwyr. Wrth i’r diwydiant llechi dyfu, dechreuodd gweithwyr deithio’n bellach i’r chwarel. I ddechrau, roeddent yn byw mewn cytiau bach yma a thraw yn y chwarel. Roedd y rhain yn aml mewn lleoedd annifyr ac anghysbell. Er enghraifft roedd ponc Aberdaron 600 metr neu 2,000 o droedfeddi uwch lefel y môr.

Cychwynnwyd y broses o godi barics newydd mewn mannau mwy addas gan Gruffydd Ellis, goruchwyliwr yn chwarel Dinorwig. Y cyntaf oedd yr Hen Dre, sef rhes o saith tŷ bychan. Yna, daeth y Dre Newydd, yma, yn is yn y chwarel.

Cewch ddysgu mwy am amodau byw yn y barics ar y dudalen hon.

Ar 14 Mawrth 1894 bu farw chwarelwr o Fôn mewn amgylchiadau tresigar. Roedd Hugh Roberts, 52, yn ceisio toddi cetrisen o ddeinameit ar gyfer gwaith y diwrnod pan ffrwydrodd. Cafodd “ei ben ei chwalu’n ddarnau ... a dymchwelwyd cyfran fawr o’r adeilad”. Roedd y preswylwyr eraill newydd adael y barics i weithio, neu fe fyddai llawer wedi cael eu lladd.

Ganed Hugh yn Aberffraw ac roedd yn byw yn Llangristiolus, Môn, gyda'i wraig a'i chwech o blant. Erbyn 1891 roedd yn ddyn craig (“rockman”) yn chwarel Dinorwig, gan aros yn y barics yn ystod yr wythnos. Ar ôl iddo farw, ysgrifennodd rheolwr y chwarel WW Vivian at bapur newydd i egluro bod Hugh wedi derbyn yr holl gyfarwyddiadau angenrheidiol, yn Saesneg a Chymraeg, ynghylch peryglon dynameit.

Claddodd Margaret, gweddw Hugh, weddillion ei gŵr yn Llangristiolus ar 19 Mawrth. Bum mis yn ddiweddarach, claddodd ei merch Elizabeth, 22, a fu farw ar 22 Awst ar ôl dioddef o beritonitis am bum diwrnod. 

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o The History House, am hanes Hugh Roberts

Map

button-tour-town-quarry Navigation next buttonNavigation previous button