Y New Inn a melinau o’r dyddiau gynt, Amroth

acc-logoFfermdy oedd y New Inn pan gafodd ei godi yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Bryd hynny roedd yn eiddo i ystad Earwear (Castell Amroth bellach). Yn ddiweddarach y daeth yn dafarn a groesawai deithwyr y goetsh fawr. Yn y parlwr cefn mae nodweddion y gegin wreiddiol yn amlwg, gan gynnwys llawr llechi a ffwrn bentan. 

Erbyn hyn llwybr didraffig yw hen heol y goetsh fawr rhwng Llanrhath a Wiseman’s Bridge. Mae’n rhan o Lwybr Arfordir arloesol Sir Benfro. Agorwyd hwnnw yn 1970 a’i fan cychwyn yw’r bont dros Afon Rhath. Yr afon sy’n nodi’r ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. 

Yn 1968 pleidleisiodd De Sir Benfro i ddileu “Suliau sych”. Ond doedd dim hawl gan y tafarndai yn Sir Gâr i werthu diodydd alcohol ar y Sul. Collodd John Morgan y New Inn gwsmeriaid i’r tafarndai hynny oedd yn Sir Benfro, sef ar ochr arall yr afon, yn eu plith ymwelwyr a oedd ar wyliau yn y maes carafannau a ddatblygwyd ganddo ef. Dyma fu’r drefn tan 1982 pan bleidleisiodd Sir Gaerfyrddin i droi yn ‘wlyb’.

Codwyd y bont gerrig yn 1907 gan ddisodli rhyd a phompren. Goruchwiliwyd y gwaith gan Alfred James, saer maen lleol o gryn fri. Derbyniodd £5 am ei wasanaeth gan awdurdodau priffyrdd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. 

Factory Woods neu Factory yw’r enw ar y cwm coediog y tu hwnt i’r New Inn. Roedd nifer o felinau dŵr yn y cwm ar un adeg. Enw’r tŷ agosaf, ar draws yr afon o’r dafarn, yw The Mill; mae’n dŷ haf erbyn hyn. Dyma Felin Flawd Earwear neu Felin Flawd y Castell lle y câi’r ŷd ei falu’n flawd ac eilflawd. Roedd y felin wrthi’n malu tan ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Mae’r llwybr tawel yn ein tywys i fyny’r cwm at Trelissey a heibio i adfeilion melin wlân a chribo, sef Melin Wlân Earwear, neu Factory yn ddiweddarach. Mae modd gweld, yn ogystal, olion y pynfarch a gyfeiriai’r ffrwd islaw’r felin wlân i droi’r felin ŷd.

Yn y 1950au bu archaeolegwyr yn archwilio safle fila Rhufeinig yn Trelissey. Cafwyd tystiolaeth am safle sylweddol wedi’i amffinio gan wrthglawdd, ffos a gwalblaid ynghyd ag olion adeilad mawr oedd wedi’i rannu’n dair uned. Yn yr adeilad hwnnw cafwyd hyd i seiliau cerrig gwahanfuriau, lloriau clai, lloriau cerrig a darnau o lechi to serameg. Yn 2007 nodwyd y gallai adeilad Rhufeinig posibl arall fodoli ryw 440m i’r gogledd gogledd-orllewin o fila Trelissey.

Am yr enw 'Earwear':

Mae’n debygol bod yr enw hwn yn cynnwys dwy elfen Hen Norseg: err ‘banc tywod, banc graean’ a ver ‘cored’. Ceir cyfeiriad cynnar at godi toll ar bysgod yma.

Diolch i Mark Harvey a Kath Luger, ac i'r Athro Dai Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Cid post: SA67 8NW    Gweler map y safle

Gwefan y New Inn (Facebook)

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button