No Sign Bar, Abertawe

No Sign Bar, 56 Wind Street, Abertawe

Mae i’r lle hwn hanes hirfaith ym myd masnachu gwinoedd a gwirodydd. Mae’r adeilad yn perthyn naill ai i’r 17ganrif neu i’r 18 ganrif, a honnir bod y seleri gwin hyd yn oed yn hŷn na hynny. Yn wahanol i dŷ tafarn cyffredin doedd dim angen codi arwydd pan gafodd y lle ei drwyddedu’n far gwin. Dyna sy’n esbonio’r enw sef No Sign Bar. A dyma’r “Wine Vaults” sy’n cael amlygrwydd yn y stori fer The Followers gan Dylan Thomas.

Am y rhan fwyaf o’r 19 ganrif roedd y busnes gwinoedd a gwirodydd ar y safle hon yn eiddo i’r un teulu; cafodd y busnes ei sefydlu gan William Clarke yn 1830. Gweithiai ei neiaint yma a nhw a etifeddodd y busnes yn y pen draw. Roedd Fredrick Evan Williams yn un o’r neiaint hynny; roedd ef yn hoff iawn o’r celfyddydau a chymerodd ran mewn cynyrchiadau amatur yn y Theatr Royal, Temple Street. Pan fu farw yn 1901, nododd papur newyddion y Cambrian fod un o gymeriadau adnabyddus iawn Wind Street wedi ei golli, er tristwch i lu o gyfeillion o blith teuluoedd mwyaf adnabyddus Abertawe a’r cylch. Parhaodd busnes gwinoedd a gwirodydd Williams & Co ar y safle dan ofal ei fab, Fred.

Cododd busnesau eraill ar y safle. Yn 1908 cafodd George Ace & Co drwydded i storio calcium carbide yn 56 Wind Street. Cai ei ddefnyddio’n danwydd ar gyfer lampau mewn pyllau glo ac ar gyfer goleuadau ceir cynnar.

Côd Post: SA1 1EG    Map

Gwefan y No Sign Bar

Tales of old Wind Street Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button