Y Pafiliwn Mawr, Llandrindod
Y Pafiliwn Mawr, Llandrindod
Cynhaliwyd adloniant yr haf yn Llandrindod mewn pebyll dros dro ym Mharc y Creigiau cyn 1912, pan agorodd y Pafiliwn Mawr. Roedd gan yr adeilad newydd ddigonedd o le ar gyfer cyngherddau, dawnsfeydd a sioeau theatr. Yn wreiddiol roedd ganddo falconi allanol ar y llawr cyntaf a oedd yn amgylchu’r adeilad i gyd. Safodd yr Arglwydd Baden Powell ar y balconi hwn i annerch jamborî Sgowtiaid.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cynhaliwyd gyrfâu chwist (gêm gardiau ar gyfer parau o chwaraewyr) yn y Pafiliwn Mawr i godi arian at y Groes Las, a oedd yn gofalu am anifeiliaid a oedd yn gweithio yn y lluoedd arfog. Roedd y fyddin yn dal i ddibynnu ar geffylau i gludo cyfarpar trwm. Roedd cŵn yn gwasanaethu ar flaen y gad mewn sawl ffordd, gan gynnwys dal llygod mawr, gwarchod a gwylio, yn ogystal â ffroeni am filwyr y gelyn neu ffrwydron. Roedd eraill yn cael eu defnyddio fel mascotiaid. Roedd arian a roddwyd gan y cyhoedd yn golygu bod y Groes Las yn medru trin mwy na 50,000 o geffylau a 18,000 o gŵn ac anfon meddyginiaeth ar gyfer ceffylau ar draws y byd.
Ym mis Rhagfyr 1916 rhoddodd ffermwyr lleol dda byw, cynnyrch a chelfi ar gyfer ocsiwn yn y pafiliwn gan godi mwy na chan punt ar gyfer Y Groes Goch a’r Groes Las.
Cafodd y pafiliwn ei ddefnyddio ar gyfer darlithoedd gan Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin, a oedd wedi lletya oddeutu 4,000 o ddynion yn Llandrindod ar gyfer hyfforddi rhwng 1915-16. Roedd 2,000 o ddynion y Corfflu wedi’u pacio’n glòs fel penwaig fan hyn ym mis Mawrth 1915 ar gyfer twrnamaint paffio’r gatrawd. Cafodd y cyngherddau a gynhaliwyd fan hyn gan y Corfflu groeso brwd; roedd rhai o’r dynion yn gerddorion ac yn actorion wrth eu galwedigaeth! Daeth cynulleidfa fawr i gyngerdd ffarwelio’r Corfflu ym Mai 1916.
Sinema oedd y pafiliwn o’r 1920au hyd at y 1950au ac ar ôl hynny cafodd ei ddefnyddio fel neuadd ddawnsio. Roedd Cyngor Sir Powys yn rhedeg y Pafiliwn o’r 1970au hyd 2015 fel lleoliad ar gyfer cyngherddau, disgos, comedi a digwyddiadau eraill.
Ail-agorwyd yr adeilad ym mis Mawrth 2016 gan gwmni cymunedol o’r enw Grand Pavilion Events. Bellach mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau adloniant ac mae modd i’r cyhoedd ei logi.
Côd Post: LD1 5EY Map
Gwefan Pafiliwm Canolbarth Cymru
I barhau â thaith Llandrindod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua’r eglwys. Mae’r codau QR nesaf ar hysbysfwrdd yr eglwys, ar gornel y stryd |