Harbwr Porthmadog
Adeiladwyd y glanfeydd cyntaf yma yn y 1820au gan William Madocks, sylfaenydd Porthmadog, ond esblygodd yr harbwr a welwn heddiw dros ddegawdau, wrth i'r diwydiant llechi ffynnu.
Roedd pob un o'r prif chwareli llechi i'r dwyrain o Borthmadog yn berchen ar ei glanfa ei hun. Cei Oakeley, er enghraifft, oedd yr ardal i'r chwith o'r llithrfa. Yno fe allforiwyd llechi o chwarel Oakeley, Blaenau Ffestiniog. Roedd glanfeydd preifat tebyg yn iard rheilffordd Minffordd, lle roedd rhai llechi yn cael eu trawslwytho o’r wagenni bach i wagenni’r Cambrian Railways.
Daethai llechi at yr harbwr ar reilffyrdd cul. Roedd gwe o draciau rheilffordd dros y glanfeydd. Roedd trac dadlwytho ar hyd cei pob glanfa, fel arfer wedi ei gysylltu â thraciau eraill drwy trofyrddau syml lle y gellid cylchdroi wagenni unigol â llaw. Roedd y system reilffyrdd yn parhau at y glanfeydd “cyhoeddus” yng ngheg yr harbwr (ar y dde wrth i chi edrych o’r llithrfa). Nid oedd oedd y glanfeydd yma yn gysylltiedig â chwareli penodol.
Tyfodd diwydiant adeiladu llongau ym Mhorthmadog i wasanaethu’r fasnach allforio llechi. Adeiladwyd cannoedd o longau yn yr harbwr ac ym Morth-y-Gest (700m i'r de o'r llithrfa). Y cwbwl oedd adeiladwyr llongau ei angen oedd darn o draeth ar oleddf, lle y gallent adeiladu a lansio llongau newydd. Byddai llongau yn aml yn cael eu hadeiladu mewn sawl lleoliad ar yr un pryd. Yn y blynyddoedd cynnar, adeiladwyd rhai llongau ar ochr ogleddol yr harbwr, gan fod llechi yn cael eu hallforio yn bennaf o’r glanfeydd gyferbyn ar y pryd. Cafodd y gweithgaredd hwn ei adleoli pan grewyd y glanfeydd ar yr ochr hon.
Datblygodd adeiladwyr llongau Porthmadog math cyflym o long a elwir y sgwner tri-mast, ac yn hwyrach y “Western Ocean Yacht”, ar gyfer y fasnach ar draws cefnfor yr Iwerydd. Y llong olaf a adeiladwyd ym Mhorthmadog oedd y sgwner Y Gestiana, a ddrylliwyd ar ei mordaith gyntaf yn 1913.
Yn y llun Fictoraidd, fe welwch adeiladu llongau ar y dde, glanfeydd chwareli yn y canol, glanfeydd cyhoeddus yn y blaendir, wageni rheilffordd yn cludo llechi, rhesi o lechi to yn aros am longau, a nifer o longau hwylio yn yr harbwr.
Heddiw, mae’r harbwr yn boblogaidd fel angorfa i fadau hwylio a chychod hamdden eraill.
Gyda diolch i Robert Cadwalader, o Amgueddfa Forwrol Porthmadog, ac i William Dyson-Laurie am yr hen lun