Taith Harri Tudur i Faes Bosworth
Taith Harri Tudur i Faes Bosworth
Yn dilyn ei fuddugoliaeth ym mrwydr Bosworth, sefydlodd Harri Tudur linach a newidiodd bywyd ym Mhrydain yn ddirfawr – a chychwyn hyn i gyd oedd ei daith fentrus, gyfrwys drwy Gymru.
Glaniodd Harri o alltudiaeth yn Ffrainc ym Mill Bay, Sir Benfro yn Awst 1485. Llwyddodd i ddrysu’r awdurdodau trwy gymryd llwybr annisgwyl drwy ganolbarth Cymru er mwyn cyrraedd Lloegr. Bellach fe allwch chi ddilyn ei lwybr, naill ai’n bersonol neu’n rhithiol trwy ddilyn ein taith o leoliadau QR. Wedi ichi ddarllen y testun, dewiswch yr eicon ‘Nesaf’ a ddangosir ger baner y daith. Bydd yn eich tywys at y cam perthnasol nesaf.
Bydd y testun sy’n disgrifio’r daith yn ceisio gwahaniaethu rhwng y ffeithiau dilys am daith Harri a’r chwedloniaeth sydd wedi tyfu o’i gwmpas. Mae tystiolaeth ddogfennol i brofi bod Harri wedi teithio drwy Hwlffordd, Aberteifi a Machynlleth cyn cwrdd â’i gymheiriaid newydd yng Nghefn Digoll, crib ger y ffin â Lloegr.
Wedi canrifoedd maith mae’n amhosib profi na gwrthbrofi storïau sy’n honni i Harri alw mewn amryw leoedd eraill. Efallai i rai o’r rhain gael eu creu yn fuan wedyn gan deuluoedd a oedd yn awyddus i frolio’u pwysigrwydd; mae eraill yn ffrwyth dychymyg haneswyr; mae eraill, o bosibl, yn hollol wir!
I ymuno â’r daith ar lein, dewiswch leoliad o’r rhestr isod:
Gallwch weld map o'r lleoliadau ar hyd y llwybr yma
HiPoints ar Daith Harri Tudur i faes Bosworth |
||
HiPoints eraill sy'n bethnasol i hanes Harri Tudur
Gogledd Cymru
- Penmynydd, Sir Fȏn – sedd y Tuduriaid family, gyda delw cyndadol yn yr Eglwys
- Caernarfon - enciliodd Siasbar Tudur ar ȏl colli brwydr Twthill yn 1461
- Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn – cysylltir yr eglwys at Ednyfed Fychan, un o gyndeidiau Harri
- Ysbyty Ifan – delw yn ȏl y son o Rhys ap Maredudd, gŵr cydnerth ar faes Bosworth
- Neuadd Bodrhyddan, Rhuddlan – cartref teuluol negesydd a aeth a gwybodaeth a phres at Harri alltud
- Salusbury Arms, Tremeirchion - urddwyd T. Salusbury yn farchog gan Harri am ei gymorth yn 1497
- Treffynnon – rhodd gan fam Harri oedd yr adeiladau wrth ffynnon Gwenfrewi, yn ȏl y son
- Yr Wyddgrug - Arianwyd yr eglwys gan fam Harri. Ynddi fe welwch arfbais Stanley, a fu ar faes Bosworth
- Llaneurgain - mae herodraeth yn yr eglwys yn adlewyrchu nawdd gan deuluoedd Stanley a Beaufort
- Wrecsam – mam Harri a arianodd twr enfawr yr eglwys, mae'n debyg
- Rhiwabon - delw John ap Elis Eyton, a gafodd tiroedd lleol yn wobr am ei wasanaeth ar faes Bosworth
- Holt - roedd y castell yn eiddio i Syr William Stanley nes y cafodd ei ddienyddio gan Harri yn 1495
- Llandrillo-yn-Edeyrn - daliodd aelod o deulu Llwyd, Hendwr, Gastell Harlech i'r Lancastriaid o 1460 i 1468
- Tŷ Gwyn, Y Bermo - yn ȏl y son, fe'r adeiladwyd fel tŷ diogel i Siasbar Tudur i ddod i Gymru a gadael
De Orllewin Cymru
- Cadeirlan Tyddewi - lleoliad bedd tad Harri Tudur
- Castell Penfro – man geni Harri
- Castell Caeriw - cartref Syr Rhys ap Thomas, prif gefnogwr Harri cyn ac ar ȏl Bosworth
- Harbwr Dinbych-y-Pysgod - lle y dihangodd Harri yn 1471 i ddecrhau alltudiaeth o 14 mlynedd
- Castell Caerfyrddin – lle y carcharwyd tad Harri yn anghyfreithlon, yn fuan cyn iddo farw
- Delw Syr Rhys ap Thomas a'i wraig - yn eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin
South-east Wales
- Cadeirlan Llandaf – Siasbar Tudur a arianodd y twr
- Casnewydd - maen debyg mai Siasbar Tudur, Arglwydd Casnewydd, a arionodd dwr y gadeirlan
- Eglwys Brynbuga - portshys gan yr Arglwydd Herbert (mae'n debyg), gwarchodwr Harri yn Rhaglan