Dalfeydd Fictoraidd Caerfyrddin
Dalfeydd Fictoraidd, Hen Orsaf Heddlu’r Sir (Castle House), Caerfyrddin
Y tu mewn i hen orsaf heddlu’r sir gallwch ymweld â dwy gell o gyfnod Fictoria. Dyma lle y cadwyd y rheini dan amheuaeth ar ôl eu harestio a chyn i’w hachosion gael eu clywed. Roedd y rheini a ddyfarnwyd yn euog yn cael eu symud naill ai i’r carchar mawr a lenwai y rhan fwyaf o safle Castell Caerfyrddin, neu i sefydliadau eraill. Dienyddiwyd amryw yn y carchar.
Codwyd Castle House yn gelloedd i’r heddlu. Cafodd ei gwblhau tua 1860 ar safle hen infirmari a oedd rhwng muriau allanol a muriau mewnol y castell. Gallwch weld y celloedd hyn pan fydd y swyddfa dwristaidd leol, sydd yn Castle House, ar agor. Does dim golau trydan yn y celloedd er mwyn rhoi gwell syniad o’r teimlad o fod yn gaeth yno.
Dangosir ffotograffau o wynebau’r drwgweithredwyr ar y muriau tu mewn. Daw’r rhain o Gofrestr Troseddwyr Caerfyrddin sy’n cofnodi’r rheini a fu dan glo yma. Roedd llywodraethwr y carchar, George Stephens, ymhlith y cyntaf yn y byd i sylweddoli bod technoleg newydd ffotograffi yn gallu creu cofnod swyddogol gwerthfawr o wynebau drwgweithredwyr. Roedd llawer o ddrwgweithredwyr yn aildroseddu ac yn rhoi enwau ffug wrth gael eu dal drachefn, ond roedd y ffotos yn galluogi’r awdurdodau i adnabod y rheini a oedd wedi eu herlyn eisoes dan enw gwahanol.
Roedd Mr Stephens yn ffotograffydd brwd. Bu gyda’r Heddlu Metropolitan yn Llundain cyn cael ei anfon i Gaerfyrddin i helpu yn ystod Terfysoedd Beca . Bu’n Llywodraethwr ar garchar y dref am 33 o flynyddoedd. Bu farw yn 1897 yn 81 oed.
Y llun cyntaf o droseddwr a dynnwyd ganddo oedd James Jones, gwehydd a ddyfarnwyd i’w grogi yn 1858 am geisio llofruddio. Mae’r darlun ar y dde yn dangos rhan o dudalen o’r gofrestr o 1867. Mae wynebau’r rheini dan amheuaeth yno ynghyd â manylion personol amdanyn nhw a’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne
Cod post : SA31 1JP Map