Cerdyn post Bae Colwyn: Terry Jones
Cerdyn post gwenithfaen: Terry Jones
Ganed Terry ym Mae Colwyn yn 1942. Roedd ei daid a’i nain ar ochr ei fam yn byw yn Ffordd Dolwen yn Hen Golwyn. Roedd Terry yn byw yno gyda'i fam a'i frawd trwy weddill yr Ail Ryfel Byd.
Wrth astudio yn St Edmund Hall (un o golegau prifysgol Rhydychen) fe berfformiodd mewn sioeau theatr gyda Michael Palin, a ddaeth yn un o sêr Monty Python hefyd.
Gweddnewidiodd Monty Python gomedi teledu gyda’u cyfres o sioeau sgetsys hanner awr, Monty Python’s Flying Circus. Mae’r cerdyn post gwenithfaen ar y prom yn dangos y droed sy’n rhoi stomp ar ddiwedd animeiddiad agoriadol y rhaglen.
Fe wnaeth Monty Python bedair ffilm hefyd. Dyma un o linellau mwyaf enwog Terry: “He’s not the Messiah. He’s a very naughty boy!” a gyhoeddodd fel mam yr arwr o’r un enw yn y ffilm Life of Brian (1979).
Gweithiodd hefyd fel sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm ac awdur llyfrau i oedolion a phlant. Mae hanes yn amlwg iawn yn ei lyfrau, sy’n cynnwys The Saga of Erik the Viking (1983) a Chaucer’s Knight, Portrait of a Medieval Mercenary (1994). Mae ei gredydau ffilm yn cynnwys sgriptiwr Labyrinth (1986) sydd â David Bowie yn ymddangos ynddi.
Cafodd Terry ddiagnosis o ddementia yn 2016. Bu farw ym mis Ionawr 2020.
Cod post: LL29 8PT
Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.