Capel Tegid, y Bala
Gellir ystyried y Bala fel ystafell injan hanesyddol Methodistiaeth Cymreig – ac os felly, Capel Tegid a’i gyffiniau fyddai pont y capten.
Adeiladwyd y capel cyntaf yma yn 1757. Roedd y “sgwâr" y tu allan i'r capel yn safle, ar wahanol adegau, i wasanaethau awyr agored gyda'r Methodistiaid, capeli eraill a choleg Methodistaidd.
Ailadeiladwyd y capel gwreiddiol yma yn 1809 ac eto yn y 1860au, pan gwblhawyd yr adeilad presennol.
Daeth yr enw Capel Tegid i ddefnydd yn fuan wedyn. Roedd gan y capel newydd ddigon o seddi i ddwy ran o dair o boblogaeth y Bala! Roedd ganddo hefyd meindwr, a oedd yn fuan yn pwyso i un ochr ac a gafodd ei dynnu yn 2000. Tynnwyd yr hen lun, a welir yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan John Thomas c.1885. Ymhlith y nodweddion sydd i'w gweld mae'r meindwr a'r cerflun (newydd ar y pryd) o'r arweinydd Methodistaidd Thomas Charles.
Mae dylanwad y Bala ar ddatblygiad Anghydffurfiaeth yng Nghymru yn ddyledus iawn i deulu Lloyd o Blas-yn-dre, un o brif dai'r dref. Yr oedd Simon Lloyd, yr hwn a fu farw yn 1764, wedi ymweled â Threfecca, Powys, lle yr oedd Howell Harris wedi creu sefydliad i'r Methodistiaid Calfinaidd. Dychwelodd Simon i'r Bala nid yn unig gydag adnewyddiad o sêl y Methodistiaid ond hefyd wraig, Sarah, a oedd yn ffigwr canolog yn Nhrefecca. Roedd eu mab Simon (1756-1836) yn gurad Anglicanaidd nes i'w gefnogaeth i Fethodistiaeth olygu na fyddai unrhyw blwyf yn ei dderbyn.
Ef oedd yn gyfrifol am i Thomas Charles ymgartrefu yn y Bala, fel y gallwch ddarllen ar ein tudalen am hen gartref Thomas. Roedd Thomas hefyd yn ddiwygiwr addysg, a defnyddiodd y capel gwreiddiol yma ar gyfer rhai o'i ddosbarthiadau ysgolion gwledig arloesol. Heddiw mae'r capel yn un o saith eglwys Gofalaeth Ardal Thomas Charles yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Dilynwch y ddolen isod am fanylion.
Cod post: LL23 7EL Gweld map y lleoliad
Capel Tegid – gwefan Eglwys Bresbyteraidd Cymru