Eglwys Sant Edmwnd, Crughywel
Mae’r eglwys a welwch chi yma heddiw yr un hyd â phan gafodd ei hadeiladu. Roedd hynny cyn 1303. Wrth ddod i mewn i’r eglwys, cymerwch eiliad i werthfawrogi’r pellter draw at ffenest y dwyrain.
Mae mesuriadau mawr yr adeilad yn adlewyrchu cyfoeth sefydlydd yr eglwys, Yr Arglwyddes Sybil Pauncefoot (neu Pauncefote). Etifeddodd Gastell Crughywel gan ei thad. Roedd Maenor Gwernvale yn rhan o’i gwaddol priodas. Mae corffddelw garreg ohoni yn gorwedd yn yr eglwys, mewn cilfach yn y wal ogleddol y tu hwnt i waelod y tŵr. Gyferbyn, mae corffddelw o’i gŵr, Syr Grimbald Pauncefoot. Ym 1272, roedd wedi gorchymyn bod y castell yn cael ei ailadeiladu o garreg (cyn hynny, castell pren oedd y yno).
Yn y porth mae llechen garreg fawr, wedi’i naddu ym 1787, sy’n rhestru’r bobl na châi dynion a merched eu priodi. Ymhlith y rheini oedd yn waharddedig i ddyn roedd ei nain, gwraig brawd ei dad a chwaer tad ei wraig.
Dyma’r unig eglwys yng Nghymru a gysegrwyd i Sant Edmwnd. Brenin East Anglia oedd Edmwnd nes iddo gael ei ddal a’i ladd gan oresgynwyr o Ddenmarc yn 869 ÔC. Cafodd sawl gwyrth ei phriodoli iddo ar ôl ei farwolaeth. Tybir mai’r rheswm am y cysegriad, yn rhannol o leiaf, yw’r ffaith bod Esgob Tyddewi, pan gafodd yr eglwys ei chodi, yn cael ei adnabod fel David Martin de Edmundo.
Ychwanegwyd eiliau’r gogledd a’r de (i’r chwith a’r dde o’r corff canolog) wrth ailadeiladu yn Oes Fictoria. Roedd eiliau yma gynt, wedi’u haddurno ag emblemau busnesau lleol o adeg gynharach yn ffyniant masnachol y dref.
Y Fictoriaid hefyd a symudodd y gorffddelw o Syr John Herbert sydd mewn cyflwr da ac i’w gweld i’r chwith o’r allor. Ynghynt, gorweddai yng nghanol y corff - safle amlwg. Siryf Sir Frycheiniog oedd Syr John a gefnogodd achos y Brenhinwyr yn y Rhyfel Cartref ac a fu farw ym 1666. Roedd yn berchen ar faenordy caerog y mae ei giatws yn dal i sefyll wrth ymyl y briffordd, ychydig i fyny’r rhiw o’r eglwys.
Am amser hir adwaenid transept deheuol yr eglwys fel Capel Rumsey, ar ôl teulu cefnog lleol. Ym 1934 cafodd ei ailgysegru fel Capel Mair a’i ailddodrefnu fel rhan o gofeb i’r dynion a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn eil y gogledd ceir plac pres er cof am yr Asgell-gomander Arthur Bruce Gaskell a briododd Dorothy Davies yng Nghrucywel ym 1915. Bu’n gwasanaethu gyda Gwasanaeth Awyr y Llynges Frenhinol drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf gan dderbyn y Groes Gwasanaeth Nodedig am drefnu ymadawiad brys llwyddiannus o Ynys Lesbos ym 1917. Ymunodd â’r Llu Awyr ym 1919 a helpodd i hyfforddi awyrenwyr. Fe’i lladdwyd yn 39 oed pan syrthiodd ei awyren ymladd yn Irac ym 1927.
Y tu mewn i’r eglwys mae croes bren syml a nododd yn wreiddiol fedd milwr dienw ar un o feysydd y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi’i gladdu yn y fynwent mae’r Uwchfrigadydd Arthur Solly-Flood a wasanaethai ar staff Syr Douglas Haig yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Am fwy o’i hanes, gweler ein tudalen am Blas Porthmawr.
Gyda diolch i Eric Gower
Cod post: NP8 1BB Map
I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, ewch allan o’r fynwent (cornel y gogledd-ddwyrain), croesi’r Ffordd Newydd a cherdded heibio i fynedfa’r ysgol at y troad nesaf, y tu allan i Blas Porthmawr |