Cadeirlan Tyddewi
Cadeirlan Tyddewi
Sefydlodd Dewi Sant fynachlog yma yn y chweched ganrif. Dewi yw nawdd sant Cymru, a dethlir ei ŵyl ar Fawrth y cyntaf. Bu’n cenhadu ar draws ardal eang o ganolbarth Cymru ac yn Llydaw a phriodolir llu o wyrthiau iddo. Yn y 12fed ganrif cydnabu’r pab fod Tyddewi yn fan pererindota.
Ymosodwyd ar y fynachlog, sef Mynyw, lawer gwaith. Yn 1089 lladratawyd mwnau gwerthfawr o seintwar Dewi.
Mae’r adeilad presennol yn perthyn gan mwyaf i’r 13eg ganrif. Syrthiodd y tŵr yn 1220. Ailadeiladwyd y rhannau a ddifrodwyd erbyn 1250 ond yr oedd angen adfer pellach yn dilyn daeargryn yn 1248. O ystyried ychwanegiadau diweddarach dyma eglwys helaethaf Cymru.
Syllwch fry ar y nenfwd addurniedig pan fyddwch yn ymweld. Mae’r nenfwd o dderw cerfiedig uwchben corff yr eglwys yn perthyn i’r 15fed ganrif . Sylwch ar gorff yr eglwys a gweld y gogwydd pendant a achoswyd gan sylfeini gwlyb.
Roedd mur uchel yn amgylchynu dinas ganoloesol y gadeirlan. Mae un porthdy, sef Porth y Twr, yn dal i sefyll ar ben llwybr y llethr hir.
Mae gan y gadeirlan draddodiad hir o ysgolheictod. Gofynnodd y brenin Alfred (nawfed ganrif) i Esgob Tyddewi am gymorth i adfer grym deallol cymunedau yn Wessex a gafodd eu hanreithio gan y Llychllynwyr. Sgrifennwyd bywgraffiad arloesol Dewi gan Rhigyfarch, mab i un a ddaeth yn esgob yn ddiweddarach c. 1180.
Honnir bod corffddelw o Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis) yn y gadeirlan. Yno y cafodd ei gladdu yn 1223. Mae’r hanesion a geir ganddo am ei deithiau yng Nghymru ac Iwerddon yn cynnig gwybodaeth hanesyddol werthfawr i ni. Ei uchelgais oedd cael ei ddyrchafu’n Esgob Tyddewi. Methodd yn hynny o beth, o bosibl am fod Saeson o radd eglwysig uwch nag ef yn ei ystyried yn ormod o Gymro twymgalon. Roedd ei ymgyrch o blaid annibyniaeth ar Gaergaint yn rhagfynegi datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru yn 1920.
Ger yr allor fawr gallwch weld bedd-allor Edmwnd Tudor, tad Harri’r Seithfed. Bu Edmwnd farw yn 25 oed yn 1456, yn fuan wedi iddo gael ei garcharu’n anghyfreithlon yng Nghastell Caerfyrddin gan gorddwyr Iorcaidd. Cludwyd ei weddillion yma o Gaerfyrddin pan ddatgysylltwyd y mynachlogydd. Noddwyd y bedd-allor gan ei ŵyr Harri’r Wythfed.
Yn y 16eg ganrif roedd yn fwriad i amnewid safle’r gadeirlan a’i lleoli yng Nghaerfyrddin. Symudwyd palas yr esgob i Gaerfyrddin rhag blaen ac o ganlyniad dadfeiliodd palas yr esgob gerllaw’r gadeirlan yn Nhyddewi.
Ym mis Chwefror 2017, dyrchafwyd Joanna Penberthy yn Esgob Tyddewi – esgob benywaidd cyntaf Cymru. Flwyddyn yn ddiweddarach, daeth Dr Sarah Rowland Jones OBE yn ddeon benywaidd cyntaf yr eglwys gadeiriol. Fe'u gwelir yn y llun uchod.
Adeiladwyd organ y gadeirlan gan yr enwog Henry Willis yn 1883 a’i hailadeiladu ddwywaith yn ystod yr 20fed ganrif. Symudwyd y clychau o dŵr y gadeirlan i Borth y Tŵr yn 1730, rhag ofn i’r tŵr ddymchwel eto. Rhoddwyd dwy gloch newydd gan Gyfeillion Cadeirlan Tyddewi yn America yn 2001.
Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne
Côd post: SA62 6RD Map
Gallwch lawrlwytho Ap y gadeirlan i ymwelwyr yn rhad ac am ddim (defnyddwyr Apple yn unig) yma