Eglwys St Teilo, Llanddowror
Ailadeiladwyd yr eglwys hon yn y 1860au yn unol â chynlluniau gan Thomas David o Lacharn. Y tŵr yw’r brif ran sydd wedi goroesi o eglwys gynharach ar y safle a hwnnw’n perthyn i’r bymthegfed ganrif neu i’r unfed ganrif ar bymtheg. Mae’r bedyddfaen wythonglog yn perthyn i ddiwedd yr oesoedd canol.
Yn 1716 penodwyd Griffith Jones yn offeiriad yma gan y cymwynaswr Syr John Philipps o ystad Castell Pictwn a oedd yn berchen ar eiddo yn y pentref. Bu Syr John a Griffith Jones yn gydweithwyr agos. Yn 1720 priododd Griffith Jones â Margaret, chwaer Syr John.
Roedd pregethu Griffith Jones yn denu cynulleidfaoedd o ryw 3,000 neu 4,000 ac yn ysbrydoli eraill i fynd yn bregethwyr gan gynnwys Peter Williams, Thomas Charles a William Williams o Sir Gaerfyrddin. Daeth pob un o’r rhain yn enwog yn nhreigl amser.
Roedd Griffith Jones yn athro ysgol yn ogystal. Yn 1718 teithiodd ef a Syr John drwy Brydain mewn coets ac mae’n debyg iddynt drafod sefydlu ysgolion. Erbyn tua 1731 roedd wedi dechrau ymchilio ymhellach i’r syniad. Sylweddolai nad oedd pregethu yn unig yn ddigon i feithrin arddeliad ac amgyffred Gristnogol. Heb y pethau hyn credai na ellid cael mynediad i’r nefoedd.
Roedd angen i bobl ddarllen gair Duw drostyn nhw eu hunain er mwyn bod yn wir gredinwyr. Ond doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn gallu darllen nac ychwaith yn gallu fforddio i fynd i’r ysgol. Doedden nhw ddim yn siarad Saesneg, a dyna oedd iaith y rhan fwyaf o’r deunydd darllen – roedden nhw’n rhy ddrud yn ogystal.
Roedd angen i bobl ddarllen gair Duw drostyn nhw eu hunain er mwyn bod yn wir gredinwyr. Ond doedd y rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn gallu darllen nac ychwaith yn gallu fforddio i fynd i’r ysgol. Doedden nhw ddim yn siarad Saesneg, a dyna oedd iaith y rhan fwyaf o’r deunydd darllen – roedden nhw’n rhy ddrud yn ogystal.
Deallodd Griffith Jones petai’n dysgai trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, byddai oedolion a phlant yn llwyddo i ddysgu darllen yn foddhaol yn annibynnol o fewn dau neu dri mis. Ei ddeunydd darllen oedd y Beibl, holwyddoreg yr Eglwys a’r Llyfr Gweddi Gyffredin. Gyda chymorth Madam Bevan o Lacharn a’i chysylltiadau cododd arian i brynu defnyddiau darllen i’r ysgolion. Darparodd yr S.P.C.K. (Y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristnogol) filoedd o ddefnyddiau printiedig yn rhad.
Trodd dŷ yn Llanddowror yn goleg er mwyn hyfforddi athrawon ac un arall yn llety ar eu cyfer. Wedi derbyn gwahoddiad gan offeiriad lleol, byddai athro yn mynd i blwyf am ddau neu dri mis gan ddysgu mewn adeilad addas boed hwnnw’n ffermdy neu ysgubor neu eglwys. Cyfyngwyd maes y gwersi i ddysgu darllen gan ddefnyddio testunau crefyddol. Roedd yr ysgolion yn llwyddiant ysgubol.
Wedi marwolaeth Griffith Jones yn 1761, trefnwyd rhaglen yr ysgolion gan Madam Bevan ei hun. Erbyn 1779 roedd tua thri chwarter o boblogaeth Cymru wedi dysgu darllen. O fewn ychydig ddegawdau daeth Cymru yn un o genhedloedd mwyaf llythrennog Ewrop - camp aruthrol.
Yn sgil llwyddiant yr ysgolion gwelwyd cynnydd mewn llenyddiaeth grefyddol (cyhoeddwyd pymtheg ar hugain o lyfrau gan Griffith Jones ei hun) a daeth Caerfyrddin yn un o brif ganolfannau’r diwydiant argraffu. Symbylodd yr ysgolion ddeffroad ym maes crefydd yn achos yr Eglwys Sefydledig yn ogystal â’r mudiad Methodistaidd newydd. Cynyddu a wnaeth y defnydd o’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth yn ogystal.
Y tu fewn i’r eglwys ceir cofebau ar y wal i Griffith Jones a Madam Bevan. Mae eu beddfaen mewn lle anrhydeddus wrth yr allor. Delwedd ohono yw’r ffiguryn.
Diolch i Peter Stopp o Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Gaerfyrddin
Cod post: SA33 4HL Map y lleoliad