Neuadd Ymarfer y Fyddin, Aberhonddu
Neuadd Ymarfer y Fyddin, Heol Conway, Aberhonddu
Codwyd Neuadd Ymarfer ar y safle hwn cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dyma lle cafodd cannoedd o recriwtiaid eu blas cyntaf ar fywyd yn y fyddin. Cafodd y neuadd wreiddiol ei hailadeiladu’n ddiweddarach ar gyfer Llu Cadetiaid lleol y Fyddin.
Ar 5 Awst 1914, drannoeth diwrnod cyntaf y rhyfel, cafodd aelodau lleol Llu Tiriogaethol Brycheiniog (milwyr wrth gefn) eu harchwilio yn y Neuadd Ymarfer. Daeth aelodau eraill i Aberhonddu y diwrnod hwnnw o ardaloedd cyfagos. Y noson honno, gadawodd pob un ohonynt mewn dau drên arbennig er mwyn cael hyfforddiant yn Sir Benfro. Roedd masnachwyr lleol wedi darparu gwerth dau ddiwrnod o fwyd a diod ar gyfer y bataliwn llawn.
Gwirfoddolodd llawer o ddynion yn frwd yn ystod yr wythnosau wedyn. Crëodd Cyffinwyr De Cymru fataliwn wrth gefn newydd ar gyfer Brycheiniog. Y bwriad yn wreiddiol oedd darparu ‘gwasanaeth cartref’ yn lle’r milwyr parhaol a’r milwyr wrth gefn a oedd wedi’u hanfon i’r gwrthdaro dramor. Wrth i’r rhyfel barhau, aeth y milwyr wrth gefn i flaen y gad a gwnaeth llawer ohonynt yr aberth eithaf.
Erbyn diwedd mis Hydref 1914, roedd dros 700 o swyddogion a dynion ymhlith y milwyr wrth gefn yn Aberhonddu. Roedd rhai eraill yn cyrraedd y dref bob dydd. Nid oedd unrhyw arfau ar gael ac roeddent yn canolbwyntio ar ymarfer, er enghraifft ymarfer gorymdeithio ac ymarfer technegau milwrol eraill.
Ar ddiwrnod ffair Aberhonddu ddechrau mis Tachwedd 1914, gadawodd y milwyr wrth gefn y Neuadd Ymarfer i fynd ar orymdaith fawr o gwmpas y dref, gan ddilyn band drymiau a phibau. Arferai gweision fferm a phobl eraill ymweld ag Aberhonddu ar ddiwrnod y ffair i chwilio am waith, a diben yr orymdaith a chyfarfod awyr agored oedd hybu’r ymgyrch recriwtio.
Erbyn hyn, mae gwahanlu lleol o Lu Cadetiaid y Fyddin – mudiad ieuenctid ac iddo thema filwrol – yn cael hyfforddiant yn y Neuadd Ymarfer. Caiff y bobl ifanc gyfleoedd i gael profiadau a allai newid eu bywyd, mwynhau a chael hwyl gyda’u ffrindiau, ac ennill cymwysterau a gaiff eu cydnabod ledled y DU. Mae gweithgareddau o’r fath yn paratoi’r bobl ifanc i fod yn oedolion cyfrifol mewn cymdeithas.
Caiff yr adeilad ei gynnal a’i gadw gan y Gymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, sef un o gyrff hyd braich y Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd â thros 100 mlynedd o hanes. Fel y llais galluogol ar gyfer milwyr wrth gefn a chadetiaid yng Nghymru, mae’r Gymdeithas yn darparu’r lleoedd y maent yn gweithio ac yn cael hyfforddiant ynddynt. Dilynwch y ddolen gyswllt isod i gael rhagor o wybodaeth am Lu Cadetiaid y Fyddin ac am y Gymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru.
Cod post: LD3 7EU Map
I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, cerddwch tua’r gogledd i’r Watton a throwch i’r chwith. Dilynwch y Watton ac yna’r Gwrthglawdd i Eglwys y Santes Fair. Mae’r codau QR nesaf wrth fynedfa’r eglwys (ar yr ochr ogleddol) |