Gamelan Javaidd, Neuadd Dewi Sant
Gamelan Javaidd, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd
Mae’r ensemble o offerynnau traddodiadol hyn i’w gweld ar hyd ymyl y grisiau rhwng Lefel 2 a 3. Cliciwch ar y clip fideo isod i glywed sut mae'n swnio ac i weld delweddau o offerynnau sydd yng nghasgliad y Neuadd.
Daw Gamelan o Indonesia, a’r set yma o Gamelan Javaidd dwbl yw’r unig un yng Nghymru. Fe'i prynwyd gan Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig yn 1998.
Caiff Gamelan ei arwain o set o ddrymiau llaw a elwir yn kendhang. Yr offerynnau mwyaf cyffredin gaiff eu defnyddio yw metalophonau, a gaiff eu chwarae â gyrdd pren ac sydd ag ystod traw ac sy’n chwarae rhannau gwahanol o fewn yr ensemble. Mae offerynnau eraill yn cynnwys ffliwtiau bambŵ, offeryn bwaog o’r enw rebab ac offeryn llinynnol a elwir yn siter. Gall perfformiadau hefyd gynnwys lleisiau, o gorws merched a bechgyn i unawdwyr merched.
Mae Gamelan yn parhau yn rhan greiddiol o ddiwylliant Indonesia, a gallwch ei flasu drosoch eich hun yn Neuadd Dewi Sant. Mae Actifyddion Artistig yn rhedeg cyrsiau rheolaidd i ddechreuwyr a chwaraewyr mwy profiadol i ddatblygu eu sgiliau chwarae.
Gamelan Caerdydd yw ensemble cymunedol y Neuadd. Mae’n cwrdd yn rheolaidd i chwarae’r Gamelan Javaneaidd gyda rhaglen sy’n cynnwys cerddoriaeth draddodiadol o Java a chyfansoddiadau gorllewinol. Mae’r grŵp yn croesawu aelodau newydd, waeth beth fo’u gallu neu eu profiad blaenorol. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch ag Actifyddion Artistig ar 029 2087 8574 neu dilynwch y ddolen isod i wefan Actifyddion Artistig.
Cod post: CF10 1AH Map