Co-op y ffermwyr gynt, Y Gât, Sanclêr

St Clears logoAdeilad Cymdeithas Gydweithredol y ffermwyr (y co-op) oedd hwn yn wreiddiol yn 1910, lle y bu gardd tŷ fferm Pentre ar un adeg. Fferm Pentre oedd safle un o‘r ysgolion cylchynol elusennol cynharaf fel y gwelwch ar ein gwe-dudalen am y fferm

Yn yr adeilad tri llawr cynhyrchwyd a gwerthwyd bwydydd anifeiliaid. Roedd melinau malu a safleoedd llwytho yma. Ac ar y llawr cyntaf roedd swyddfa wedi ei chreu o goed ffawydd coch a ffenestri mewnol. Byddai’r grawn yn cael ei halio i’r llawr uchaf gan graeniau. Yn 2023 cofiai Mrs Morgan o fferm Pentre, fel yr arferai fynd mewn i’r adeilad gyda’r hwyr pan oedd yn blentyn a llithro o lofft y grawn i’r llawr gwaelod ar hyd y cafnau llithro.

Old aerial photo of farmers' co-op buildingO c. 1966 ymlaen defnyddid yr adeilad i gadw glo tan i’r Cyngor Sir ei brynu yn y pen draw a’i droi’n ganolfan grefftau a llyfrgell gyhoeddus. Agorodd hwnnw ar 3 Gorffennaf 1979. Cyngor y Dref sy’n gofalu am y lle er 2023. 

Terfysg Becca 1839-1843 a goffeir gan yr enw ‘Y Gât’. Dyna’r adeg yr ymosodwyd ar y tollbyrth am eu bod yn arwydd o ormes ar y werin wledig. 

Difrodwyd yr adeilad gan dân c. 1934 (gw. y llun) a bu rhaid ei ail godi yn rhannol. Plastrwyd pen uchaf y wal ochr â sment (sy’n amlwg hyd heddiw) wrth ailgodi. 

Nôl yn 1910, roedd beudai Fferm Pentre ar draws y ffordd gyferbyn â’r ffermdy. Codwyd adeilad arall yn efaill i adeilad co-op y ffermwyr ar safle’r beudai c. 1915. Gwerthai’r Western Counties Association (WCA)  fwydydd anifeiliaid ar y llawr gwaelod. Ar y llawr cyntaf roedd Neuadd Gwalia lle roedd gweithgareddau’r pentref ( dawnsfeydd, cyngherddau, a pantomeim) yn cael eu cynnal. Difrodwyd hwnnw gan dân c. 1980. Maes Parcio o flaen Lewis a Lewis yw’r safle bellach. 

Y safle hon oedd canolfan y gymuned amaethyddol cyn 1910. Yn 1908 paratowyd cinio gan Fferm Pentre ar gyfer Cymdeithas Amaethyddol Sanclêr. Ffurfiwyd y gymdeithas honno yn 1878 yn dilyn cyfarfod yng ngwesty’r Swan. Y gymdeithas hon a drefnai’r sioe amaethyddol flynyddol ac yn 1907 agorwyd marchnad newydd a chae ffair ger cornel Heol yr Orsaf. Ym Medi 1945, wedi’r Ail Ryfel Byd, ailddechreuodd y sioe ar gae Pentre. Miss Violet Griffiths o Fferm Pentre oedd ysgrifennydd mygedol y gymdeithas

Diolch i Peter Stopp o Gymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin, ac i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA33 4AA    Map y lleoliad

button-tour-CE previous page in tournext page in tour