Cerdyn post Bae Colwyn: Y Weinyddiaeth Fwyd
Cerdyn post gwenithfaen: Y Weinyddiaeth Fwyd
Mae’r cerdyn post gwenithfaen hwn ar y prom ym Mae Colwyn yn ymwneud ag ymfudiad y Weinyddiaeth Fwyd i’r dref yn yr Ail Ryfel Byd.
Mae’r ddelwedd cerdyn post yn seiliedig ar y poster amser rhyfel oedd yn cario’r slogan “Spades not ships” ac yn dangos rhaw arddio ar un ochr, a llong ar yr ochr arall. Roedd hwn yn rhan o ymgyrch gyhoeddus ‘Dig for Victory’ y weinyddiaeth, oedd yn ysbrydoli miloedd o bobl gyffredin i dyfu bwyd yn eu gerddi, ar feysydd chwarae ac mewn nifer o lefydd arall. Llwyddodd Prydain i haneru’r swm o fwyd roedd yn fewnfudo, gan arbed bywydau ar y môr a rhyddhau llongau ar gyfer cyflenwadau hanfodol eraill.
Wrth i longau tanfor Almaenig suddo morgludiant masnachol, roedd y weinyddiaeth yn wynebu her fawr i sicrhau fod y bwyd oedd ar gael yn bwydo’r lluoedd arfog yn dda a gweddill poblogaeth Prydain yn ddigonol. Roedd y dasg yn rhy bwysig i’r weinyddiaeth aros yn Llundain, oedd dan fygythiad bomio gan yr elyn.
Roedd pencadlys amser rhyfel y weinyddiaeth yma, ar y prom. Ar ochr fewndirol y ffordd, mae bloc o fflatiau o’r enw Princess Court yn sefyll ar safle’r Colwyn Bay Hotel. Yn y gwesty hwn, roedd swyddfa’r Arglwydd Woolton, y Gweinidog Bwyd. Roedd nifer o’i adrannau yma hefyd. Roedd ceginau'r gwesty yn cael eu defnyddio i arbrofi ar fwyd oedd yn cael ei wastraffu fel arfer. Roedd y canlyniadau lleiaf annymunol yn ffurfio sylfaen y ryseitiau oedd yn annog y cyhoedd i fwyta prydau fel "ymennydd ar dost”!
Roedd adrannau eraill wedi eu lleoli mewn gwestai ac ysgolion a feddiannwyd ar draws Bae Colwyn. Gallwch weld y rhai ohonynt trwy ddilyn ein taith Dig for Victory cod-QR, gan gychwyn yn ardal y Colwyn Bay Hotel.
Cod post: LL29 8PT
Cliciwch yma am fap o leoliad y cerdyn post.