Neuadd Clarence, Crughywel
Agorwyd y neuadd hon, sy’n parhau fel canolfan ar gyfer digwyddiadau cymunedol, ym 1892. Gosodwyd y maen sylfaen gan ŵyr y Frenhines Fictoria, y Tywysog Albert, Dug Clarence ac Avondale.
Cost adeiladu’r neuadd oedd £2,500, gydag arian a godwyd drwy werthu cyfrannau am £1 yr un. Fe’i bwriadwyd fel man cyfarfod cyhoeddus a neuadd ymarfer i wirfoddolwyr lleol yn y fyddin a gadwai eu harfau yn nhŷ’r gofalwr y drws nesaf.
O fewn mis i gyhoeddi’r Rhyfel Byd Cyntaf, paratowyd cynllun – na chafodd ei roi ar waith erioed - gan y swyddog meddygol rhanbarthol, Dr Philip Hill, i drawsnewid y neuadd yn ysbyty pe bai raid yn ystod y rhyfel. Bu farw ei fab Philip yn y brwydro yn Ffrainc ym mis Ebrill 1917 yn 43 oed.
Ym mis Tachwedd 1914, anerchodd yr ASau Sidney Robinson a William Brace ‘gyfarfod recriwtio’ yn Neuadd Clarence. Buont yn annog pobl leol i ymuno â’r lluoedd arfog neu i ddarbwyllo perthnasau a chyfeillion i wneud hynny. Yn ôl Mr Robinson, roedd cymunedau amaethyddol mewn rhai ardaloedd heb ddangos digon o frwdfrydedd dros listio, efallai oherwydd nad oeddent yn cyfarfod â’i gilydd yn yr un ffordd â phobl oedd yn byw mewn trefi.
Cynhaliwyd digwyddiadau poblogaidd yn y neuadd yn ystod y rhyfel i godi arian i’r milwyr neu’r Groes Goch. Disgrifiwyd dawns yn y neuadd ym 1918 i godi arian i garcharorion rhyfel gan y Abergavenny Chronicle fel un ‘anghyfforddus o lawn’! Ar ôl y rhyfel, cafwyd digwyddiadau yma i godi arian i’r Gronfa Croeso Adref i Filwyr a Morwyr.
Erbyn heddiw rheolir y neuadd gan ymddiriedolaeth. Mae yna seddau i hyd at 285 o bobl yn ei hawditoriwm. Cynhelir adloniant, cynadleddau, neithiorau a gweithgareddau eraill yn y ganolfan.
Cod post: NP8 1BN Map
Gyda diolch i Tim Jones
I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cerddwch i’r de ar hyd y briffordd at y swyddfa bost. |