Hen Neuadd a Gwesty'r Parc, Heol y Frenhines, Caerdydd
Mae camlas gyflenwi dociau Caerdydd yn llifo o dan yr adeilad mawr hwn, a godwyd yn oes Fictoria fel lleoliad mawreddog ar gyfer adloniant ac arosiadau dros nos.
Cyn hynny roedd theatr yn sefyll ar y llain rhwng pen deheuol Plas y Parc a'r gamlas gyflenwi, yn gyfochrog â Phlas y Parc. Gorweddai Crockherbtown – Heol y Frenhines erbyn hyn – ar hyd ymyl deheuol y llain ac roedd yn croesi’r gamlas ar bont.
Erbyn yr 1880au roedd diffyg gwesty mawr yn ardal Caerdydd ger gorsafoedd rheilffordd Crockherbtown i bobl oedd yn cyrraedd ar y trên, felly cododd cwmni newyedd, sef y Park Hall & Hotel Company, £55,000. Un o ysgogwyr y fenter oedd John Stuart Corbett, cefnder i Ardalydd Bute. Fel asiant Ystad Bute, helpodd i ddatblygu llawer o seilwaith a chyfleusterau Caerdydd yn y 19eg ganrif.
Ehangwyd y llain trwy adeiladu porth bwaog dros gamlas gyflenwi’r dociau. Mae sail wal ddwyreiniol yr adeilad ar hyd hen glan y gamlas. Mae'r dŵr yn dod i'r amlwg yn Ffordd Churchill gerllaw, lle dadorchuddiwyd y gamlas yn 2022.
Mae llun o 1884 yn dangos y ffryntiadau ar Blas y Parc a Crockherbtown. Roedd y 10 siop sy’n wynebu Crockherbtown yn cynnwys uned fwy yn y gornel dde-ddwyreiniol ar gyfer “palas coffi”. Uchod roedd y gwesty, a oedd â thua 100 o ystafelloedd. Y tu ôl i'r siopau roedd llwybr gwasanaeth caeedig ar gyfer y siopau a'r gwesty. Roedd gan y neuaddau cyhoeddus, i'r gogledd o'r cyntedd, fynedfeydd ar Blas y Parc (y mynedfeydd ar y chwith yn y llun).
Roedd lle i hyd at 2,500 o bobl yn y brif neuadd, ac roedd gofod y gerddorfa yn ddigon mawr i 250 o gerddorion! Roedd yn cynnwys organ fwyaf Cymru, gan y gwneuthurwr blaenllaw Henry Willis & Sons. Roedd lle i hyd at 600 o bobl yn y neuadd lai. Roedd cyngerdd agoriadol y neuadd yn 1884 yn cynnwys Cymdeithas Gorawl Caerdydd, a fabwysiadodd y lleoliad ar gyfer ymarferion.
Cynhaliwyd arholiadau lleol ar gyfer myfyrwyr gobeithiol Prifysgol Caergrawnt yma ym 1884. Roedd digwyddiadau Fictoraidd eraill yn cynnwys dawnsfeydd, sioe blodau Mihangel a chyfarfodydd blynyddol Clwb Pêl-droed Caerdydd. Cafwyd anerchiad yma gan Winston Churchill, AS ifanc ar y pryd, yn 1903. Rhoddodd y soprano enwog Adelina Patti gyngerdd yma er budd Ysbyty Caerdydd ym 1909. Roedd y brief neuadd yn sinema o'r Rhyfel Byd Cyntaf hyd at y 1970au, ac ar ôl hynny fe'i hailbwrpaswyd i ehangu'r gwesty, sydd bellach â 142 o ystafelloedd.
Cod post: CF10 3UD Map