Buarthau'r Gyrn

Mae'r gorlan amlgellog hon yn un o nifer yn y Carneddau yn Eryri, lle mae defaid sy'n pori ar lethrau'r mynyddoedd yn cael eu hel at ei gilydd a'u didoli ar adegau penodol o'r flwyddyn. Gallwch weld y gorlan yn cael ei defnyddio yn y fideo isod gan Nigel Beidas.

Mae'r gorlan wedi'i lleoli 507 metr uwchben lefel y môr nid hepelll o gopa'r Gyrn, y mynydd sy'n rhoi ei enw iddi. Corlan yw'r gair a ddefnyddir yn gyffredinol i ddisgrifio lle caeedig ar gyfer cadw defaid, ond, yn ardal y Carneddau, defnyddir y term buarth yn aml i gyfeirio at gorlannau casglu.

Mae cyfran helaeth o'r Carneddau yn dir pori comin, lle mae defaid o wahanol ffermydd yn cymysgu yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. Mae ffermwyr yn gweithio ar y cyd i gasglu'r holl ddefaid ynghyd deirgwaith y flwyddyn: ym mis Gorffennaf ar gyfer cneifio; ym mis Medi ar gyfer gwahanu'r ŵyn oddi wrth y mamogiaid; ac ym mis Hydref neu Dachwedd pan gaiff y defaid i gyd eu hel i lawr o'r mynydd i bori ar dir isel dros y gaeaf ac i baratoi ar gyfer wyna. 

Mae'r corlannau amlgellog hyn yn adeileddau cymunedol, ac fel nifer o gorlannau eraill, mae Buarthau'r Gyrn yn dal i gael ei defnyddio heddiw. Mae ganddi 20 o gelloedd, gan gynnwys cell gasglu fawr  ger y fynedfa lle caiff y defaid eu gyrru yn barod i'w didoli i'r celloedd unigol sydd wedi'u pennu ar gyfer pob fferm. Mae ffermwyr yn adnabod y defaid wrth y marciau lliw ar eu cefnau neu wrth eu nodau clust (toriadau yn y clustiau sy'n unigryw i bob fferm) ac yn eu gyrru trwy dyllau yn y waliau mewnol i'r celloedd llai o amgylch y canol.

Mae defaid crwydr, neu ddefaid diarth, defaid sydd ddim yn perthyn i unrhyw un o'r ffermydd sy'n defnyddio'r corlannau, yn cael eu dychwelyd i'w perchnogion gan y prif fugail, neu'r 'setiwr'. Mae'r enw hwn yn deillio o'r gair Saesneg escheater, swyddog brenhinol yn yr Oesoedd Canol a oedd yn gyfrifol am hawlio asedau i'r Goron pan fyddai person yn marw heb unrhyw etifeddion. 

Mae corlannau hynaf y Carneddau yn dyddio o tua'r 18fed ganrif, pan ddechreuodd stadau mawr ac unigolion cyfoethog amgáu’r tir comin ar y mynyddoedd. Disodlwyd gwartheg gan ddefaid fel y prif anifeiliaid pori ar y Carneddau gan eu bod yn fwy proffidiol, yn enwedig pan gynyddodd y galw am wlân a chig defaid yn ystod rhyfeloedd Napoleon 1800-1815. 

Mae Buarthau'r Gyrn i'w gweld ar fap yn dyddio o 1786 ac mae'n debyg iddi gael ei hadeiladu rywbryd yn y 100 mlynedd cyn hynny.

Gyda diolch i Nigel Beidas o Cofnodi Corlannau

Cyfeirnod grid: SH6483268863    Map

Gwefan Cofnodi Corlannau – manylion a lluniau buarthau'r Carneddau