Cymraeg Site of Colwyn Bay Hotel
Safle’r Colwyn Bay Hotel
Saif Princess Court ar safle’r Colwyn Bay Hotel, a oedd yn gartref i bencadlys y Weinyddiaeth Bwyd yn y 1940au.
Adeiladwyd y gwesty (gweler y llun ar y dde) ym 1873 ac fe'i cynlluniwyd gan John Douglas (1830-1911), a gynlluniodd hefyd Eglwys Sant Paul ac eglwysi eraill yn yr ardal. Dymchwelwyd y gwesty yn 1974-5 i wneud lle ar gyfer yr adeilad presennol.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd gan Arglwydd Woolton, y Gweinidog Bwyd, ei swyddfa yma. O dan yr un to yr oedd adrannau weinyddiaeth yn cynnwys yr adran a oedd yn recriwtio’r staff ar gyfer yr holl adrannau eraill, hefyd y Cocoa & Chocolate Wartime Association Department a’r adran gyfathrebu. Roedd negeseuon côd o Lysgenadaethau Prydain trwy gydol y byd yn dod i’r adeilad ac yn cael eu dosbarthu gan negeswyr ar feiciau i'r adrannau weinyddiaeth eraill yn y gwestai lleol. Nid oedd dim gwres canolog a chynheswyd y swyddfeydd gan danau agored a gynt wedi’u defnyddio i gynhesu'r ystafelloedd gwely yn y gwesty.
Cynhaliwyd arbrofion yng ngheginau’r gwesty i ddod o hyd i ffyrdd o wneud bwyd derbynniol allan o dameidiau a fyddai’n cael eu gwrthod fel arfer. Ymddangosodd rhai o'r canlyniadau llai trychinebus mewn llyfryn gan y Weinyddiaeth, ‘Food Facts for the Kitchen Front’. Yn eu plith yr oedd rysáit ar gyfer ymennydd ar dost, gan ddefnyddio saws persli i guddio’r darnau o ymennydd.
O’r gwesty roedd dirprwy gadeirydd cwmni siocled Rowntrees yn rhedeg yr is-adran coco a siocled. Un o gynhyrchion yr is-adran oedd y Cynllun Pwyntiau Personol (Personal Points Scheme), a awdurdodwyd gan y prif weinidog Winston Churchill yn 1942 i sicrhau bod pawb yn cael cyfran gyfartal o ddanteithion, gan gynnwys y bobl a oedd yn rhy brysur yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau a swyddi hanfodol eraill i neilltuo amser ar gyfer hela melysion.
Parhaodd y weinyddiaeth i ddefnyddio adeilad y gwesty tan 1953, pan ddychwelodd y staff i gartref y weinyddiaeth yn Guildford, Surrey.
Gyda diolch i Graham Roberts o Gymdeithas Ddinesig Bae Colwyn
Côd post: LL29 8PT Map