Cymraeg Fisher's Bridge
Pont y Pysgotwr, Parc Bute
Mae dogfen morgais o 1772 yn sôn am Bont y Pysgotwr – sef cae, nid pont! Wrth i chi sefyll ar y bont bresennol ac edrych i’r de (tua Chastell Caerdydd), i’r chwith o’r dŵr fe welwch y theatr a neuadd gyngerdd £22.5m a agorwyd gan Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2011. Mae’n sefyll ar yr hyn a elwid yn gae Pont y Pysgotwr.
Mae’r ddogfen hon hefyd yn dweud wrthym i hen felin ban gael ei chodi ar y safle. Roedd melin ban yn lle y cafodd ffabrig gwlân ei socian mewn wrin a’i guro i wneud y ffibrau yn fwy meddal a gwella safon y brethyn – roedd ar waith tua 1314. Mewn dogfen o 1492 fe’i cyfeirir ati fel Newmyll, sydd hefyd yn sôn am bysgotfa rhwng y Newmyll a melinau ŷd ger tref Caerdydd. Felly cawn ddarlun o bont a ddefnyddir gan bysgotwyr ar draws dyfrffos y felin. Pan ddymchwelwyd y felin ban, ryw bryd ar ôl 1715, nodwyd y tir wedi’i glirio fel y cae ger Pont y Pysgotwr.
Y cwrs dŵr is y bont oedd nant y felin gynt (sianel i’r dŵr a weithiodd olwynion y felin redeg drwyddi). Fe’i hymgorfforwyd i gamlas gyflenwi'r dociau rhwng 1836 a 1844. Penderfynodd Ail Ardalydd Bute greu doc uchelgeisiol newydd ger aber Afon Taf, gyda lociau i sicrhau bod y dŵr yn ddigon uchel i’r llongau gyrraedd neu adael boed llanw neu drai. Cafodd llawer o ddŵr ei fflysio i ffwrdd pan wagiwyd y loc, felly roedd angen system i ail-lenwi’r doc. Roedd y gamlas gyflenwi yn tapio llif Afon Taf yn uwch nag arwyneb dŵr y doc, a chadwodd disgyrchiant y dociau wedi’u cyflenwi.
Mae’n dal i gael ei defnyddio heddiw – gallai unrhyw flocio effeithio ar fasnachu yn y dociau. Os nad ydych yn cofio gweld y dŵr hwn yn llifo drwy ganol y ddinas, mae hynny am ei fod o’r golwg gan mwyaf, ar hyd cefn Heol-y-Frenhines ac yna dan y ddaear o’r tu ôl i’r Theatr Newydd ac i’r de o ganol y ddinas.
I barhau â thaith Parc Bute, dilynwch y llwybr ar hyd ochr dde’r gamlas. Cafodd y llwybr hwn ei brynu’n arbennig fel rhan o’r gwaith o adeiladu’r gamlas gyflenwi, a cherddai Ail Ardalydd Bute yma’n aml. Weithiau byddai’n cerdded at Gastell Coch, 8km i ffwrdd!
Heddiw mae’r llwybr yn lle gwych i weld bywyd gwyllt. Yn yr haf, edrychwch am y fursen fawr wych. Mae cyrff y clêr gwrywaidd yn rhyfeddol, yn lliw glas metalig, ac mae gan eu hadenydd stribyn du eang.
Ar y lan bellaf, pan fo’n haf edrychwch am ddail cylch mawr rhiwbob enfawr, neu “fwyd deinosor” fel y caiff ei alw weithiau! Mae’n hanu o Dde America, ond mae wedi lledaenu ar hyd nifer o gyrsiau dŵr, o barciau i gerddi. Yn anffodus, allwch chi mo’i fwyta. Fel arall fe wnâi grymbl enfawr.
I barhau â thaith Parc Bute, daliwch i gerdded i’r de (tua’r castell) ar hyd y llwybr wrth y gamlas gyflenwi nes i chi gyrraedd y bont nesaf. Mae’r côd QR ar bostyn cyfagos. |